Jyst ateb un pwynt - nad oes a'i gwnelo a'r gair dan sylw - mae na lawer o argymhellion call iawn yn Cymraeg Clir, yn anad dim 'BOD YN DDEALLADWY'! Dwi yn fy ngwaith weithia'n trio gwneud i wybodaeth codi tocynnau, er enghraifft, wneud rhyw fath o sens. Bod yn ddealladwy pia hi, costied a gostio. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2014-03-13 19:20 GMT+01:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>: > Pwynt cyffredinol sydd gen i. 'Roeddwn i wedi gweld bod "serthrwydd" yn > golygu "steepness" yn ol GyrA, ond yn meddwl y byddai'n haws deall rhywbeth > fel " bydd y felin draed yn mynd yn serthach neu'n llai serth yn awtomatig" > (cywirwch fi, chi bobl iaith gyntaf). Er nad ydw i'n cytuno a phopeth > ynghylch Cymraeg Clir, mi wn fod 'na ddogfennau Cymraeg (taflenni BT pan > oeddwn efo BT) na fuawswn i byth yn gorffen eu darllen, a bod pobl fel > arfer yn cael jargon yn anos ei ddeall yn Gymraeg. Cyfieithu'r ystyr sy'n > bwysig, nid o anghenraid cyfieithu pob gair, cyhyd a'n bod ni'n rhoi cyfrif > am ei ystyr rywsut. > > Wrth son am hyn wrth Bruce, mae o wedi awgrymu fy mod i'n edrych ar > "serthedd" yn GPC. Tybed faint o'r cyhoedd fydd yn gwybod am ail ystyr > serthedd? > (i) steepness, slope > (ii) coarse language, obscenity, bawdiness, ribaldry, discourtesy, abuse, > surliness. > > Tybed ai dyna pam y ceir "serthrwydd" yn GyrA? > > Ann > On 13/03/2014 17:56, Gareth Evans Jones wrote: > > Gwych, serthedd amdani dwi'n meddwl. > > Un cwestiwn bach - mae cyfeiriad yn yr un ddogfen at 'incline', ac mae > hynny'n cyfeirio at raglen ar gyfrifiadur y beic neu'r peiriant > trawsymarfer sy'n efelychu gelltydd. Ydy 'gogwydd' yn iawn yn y cyd-destun > hwn? > > ------------------------------ > *From:* Sian Roberts <[log in to unmask]><[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Thursday, 13 March 2014, 17:43 > *Subject:* Re: Elevation > > Yn ôl beth a welaf i ar y we, mae "elevation" melin gerdded yn cyfeirio > at "incline" neu "gradient". "Serthedd" neu "raddiant"? > > Siân > On 2014 Mawrth 13, at 5:25 PM, Ann Corkett wrote: > > Oes 'na bedalau ar treadmill; roeddwn i'n meddwl ei fod yn rhy fath o > lethr. A fyddai'n mynd yn fwy serth/serthach? > Ann > On 13/03/2014 16:57, Gareth Evans Jones wrote: > > Campfeydd ac ymarfer corff ydy'r cyd-destun eto. 'The treadmill's > elevation will automatically adjust....'. Gellir addasu'r felin droed fel > bod y pedalau (os mai dyna yw'r gair cywir) yn llai neu fwy ar ôl troedio > arnynt. Unrhyw awgrym os gwelwch yn dda? Mae angen un gair - ydy > 'dyrchafiad' yn swnio'n rhyfedd?? > > > > > > >