Gwych, serthedd amdani dwi'n meddwl.
Un cwestiwn bach - mae cyfeiriad yn yr un ddogfen at 'incline', ac mae hynny'n cyfeirio at raglen ar gyfrifiadur y beic neu'r peiriant trawsymarfer sy'n efelychu gelltydd. Ydy 'gogwydd' yn iawn yn y cyd-destun hwn?
Yn ôl beth a welaf i ar y we, mae "elevation" melin gerdded yn cyfeirio at "incline" neu "gradient". "Serthedd" neu "raddiant"?
Siân
On 2014 Mawrth 13, at 5:25 PM, Ann Corkett wrote:
Oes 'na bedalau ar treadmill; roeddwn i'n meddwl ei fod yn rhy fath
o lethr. A fyddai'n mynd yn fwy serth/serthach?
Ann
On 13/03/2014 16:57, Gareth Evans Jones
wrote:
Campfeydd ac ymarfer corff ydy'r cyd-destun eto. 'The
treadmill's elevation will automatically adjust....'. Gellir
addasu'r felin droed fel bod y pedalau (os mai dyna yw'r gair
cywir) yn llai neu fwy ar ôl troedio arnynt. Unrhyw awgrym os
gwelwch yn dda? Mae angen un gair - ydy 'dyrchafiad' yn
swnio'n rhyfedd??