Gwych, serthedd amdani dwi'n meddwl. Un cwestiwn bach - mae cyfeiriad yn yr un ddogfen at 'incline', ac mae hynny'n cyfeirio at raglen ar gyfrifiadur y beic neu'r peiriant trawsymarfer sy'n efelychu gelltydd. Ydy 'gogwydd' yn iawn yn y cyd-destun hwn? ________________________________ From: Sian Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, 13 March 2014, 17:43 Subject: Re: Elevation Yn ôl beth a welaf i ar y we, mae "elevation" melin gerdded yn cyfeirio at "incline" neu "gradient". "Serthedd" neu "raddiant"? Siân On 2014 Mawrth 13, at 5:25 PM, Ann Corkett wrote: Oes 'na bedalau ar treadmill; roeddwn i'n meddwl ei fod yn rhy fath o lethr. A fyddai'n mynd yn fwy serth/serthach? >Ann > >On 13/03/2014 16:57, Gareth Evans Jones wrote: > >Campfeydd ac ymarfer corff ydy'r cyd-destun eto. 'The treadmill's elevation will automatically adjust....'. Gellir addasu'r felin droed fel bod y pedalau (os mai dyna yw'r gair cywir) yn llai neu fwy ar ôl troedio arnynt. Unrhyw awgrym os gwelwch yn dda? Mae angen un gair - ydy 'dyrchafiad' yn swnio'n rhyfedd?? >