Print

Print


Diolch, Dylan, bydd tn rhaid imi holi Lyn.

From: Dylan Foster Evans
Sent: ‎11/‎03/‎2014 09:34
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: True Cross

Dim ond i nodi mai ‘Croes Naid’ oedd y ffurf Gymraeg yn hanesyddol. Mae odl a chynghanedd y beirdd canoloesol yn dangos mai /d/ oedd ar ddiwedd y gair, e.e.

 

‘Myn Croes Naid o fro’r Eidal’

http://www.dafyddapgwilym.net (156.9)

 

‘Croes Naid cywiriaid Ceri’

http://www.gutorglyn.net (37.15)

 

‘Elsbeth felenbleth flaenblaid / A’i gras yn uwch no’r Groes Naid’

http://www.gutorglyn.net (71.31-2)

 

Mae enghreifftiau eraill o’r 14g a’r 15g, yn odli â geiriau megis ‘enaid’.

 

Mwy anodd yw gwybod beth oedd yr ynganiad Saesneg, ond byddwn yn tybio y dylid oedi cyn derbyn bod y ffurf Saesneg ‘neith’ yn awgrymu ffurf Gymraeg ‘naidd’, gan mor anwadal yw’r ymdrechion i gynrychioli cytseiniaid Cymraeg mewn orgraff Saesneg (neu Ffrangeg) canoloesol.

 

Nid wyf wedi edrych ar yr amrywio ar yr enw yn y cyfnod modern. Ond nid wyf yn credu imi weld unrhyw beth ond ‘Croes Naid’ yn y farddoniaeth.

 

Cofion

 

Dylan

 

 

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Anfonwyd: 07 Mawrth 2014 23:22
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: True Cross

 

Ann

Mae copi o'r geiriadur gyda fi ond roeddwn i'n dibynnu ar ymchwil yr awduron oedd yn drylwyr iawn ac mae'n cael ei chofnodi fel Neith yn Saesneg.


From: Ann Corkett
Sent: ‎07/‎03/‎2014 16:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: True Cross

Wrth edrych o dan "Croes" yn GPC, "y Groes Naid" sydd yno, ac o edrych dan "naid" ceir "tynged, ffawd, siawns, lwc, (an)ffortun, amddiffyniad, noddfa, lloches - ond dim byd dan "naidd".

(Pam mae cyn lleied o bobl a chopi o GPC? 'Rwy'n gweld Cymry [hunand]diwylliedig sydd wedi credu i brynu set, ac eto'n cael bod 'na gyfieithwyr sy'n meddwl nad oes ei angen arnynt).

Ann

On 07/03/2014 14:10, Muiris Mag Ualghairg wrote:

Roeddwn i dan yr argraff mai'r groes naid oedd hi hefyd ond holais Lyn, un o'r awduron a chendir i Rhian, am yr enw, ac esboniodd ynteu fod sawl enw ar y groes gan gynnwys 'Y Groes Naid, Y Groes Nawdd a'r Groes Naidd', un o'r enwau Saeneg arni, a'r enw a ddefnyddir ar 'Wikipedia' yw 'The Cross of Neith' sy'n awgrymu'n gryf mai 'dd' oedd ar ddiwedd y ffurf sy'n sail i'r enw Saesneg.

Muiris

 

2014-03-07 13:39 GMT+00:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:

Wedi bob yn meddwl ei wirio ers gweld y teitl.  Gofynnaf ar frys ac mewn anwybodaeth, onid "Y Groes Naid" dylai fod?
Ann

 

On 07/03/2014 13:24, Muiris Mag Ualghairg wrote:

Wedi darllen neges Geraint, rwy'n hoffi'r 'Grog'n fawr iawn ond wedi dweud hynny mae defnyddio'r 'Groes' yr un mor  hen (yn ol Geiriadur Prifysgol Cymru) ar gyfer y darnau o bren y croeshoeliwyd Iesu arnynt.

Mae cyfeiriad at 'y wir groes' yn y nofel ddiwedar 'Y Groes Naidd' gan Lyn Jones a Mel Hopkins.

Muiris

 

On 7 March 2014 13:03, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:

Y Wir Groes yn iawn.  Mae darn ohoni i'w gweld mewn Eglwys Gatholig yng Ngogledd Cymru (dw I


M

 

On 7 March 2014 10:23, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Cyd-destun:-

Martin≤ went on to Arezzo to view Piero’s eight frescoes illustrating the legend of the True Cross.



Y Wir Groes? ta oes na ryw derm penodol?

Anna



Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!