Print

Print


Ann

Mae copi o'r geiriadur gyda fi ond roeddwn i'n dibynnu ar ymchwil yr awduron oedd yn drylwyr iawn ac mae'n cael ei chofnodi fel Neith yn Saesneg.

-----Original Message-----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
Sent: ‎07/‎03/‎2014 16:25
To: "[log in to unmask]" <[log in to unmask]>
Subject: Re: True Cross

Wrth edrych o dan "Croes" yn GPC, "y Groes Naid" sydd yno, ac o edrych dan "naid" ceir "tynged, ffawd, siawns, lwc, (an)ffortun, amddiffyniad, noddfa, lloches - ond dim byd dan "naidd".

(Pam mae cyn lleied o bobl a chopi o GPC? 'Rwy'n gweld Cymry [hunand]diwylliedig sydd wedi credu i brynu set, ac eto'n cael bod 'na gyfieithwyr sy'n meddwl nad oes ei angen arnynt).

Ann

On 07/03/2014 14:10, Muiris Mag Ualghairg wrote:

Roeddwn i dan yr argraff mai'r groes naid oedd hi hefyd ond holais Lyn, un o'r awduron a chendir i Rhian, am yr enw, ac esboniodd ynteu fod sawl enw ar y groes gan gynnwys 'Y Groes Naid, Y Groes Nawdd a'r Groes Naidd', un o'r enwau Saeneg arni, a'r enw a ddefnyddir ar 'Wikipedia' yw 'The Cross of Neith' sy'n awgrymu'n gryf mai 'dd' oedd ar ddiwedd y ffurf sy'n sail i'r enw Saesneg.

Muiris



2014-03-07 13:39 GMT+00:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:

Wedi bob yn meddwl ei wirio ers gweld y teitl.  Gofynnaf ar frys ac mewn anwybodaeth, onid "Y Groes Naid" dylai fod?
Ann 


On 07/03/2014 13:24, Muiris Mag Ualghairg wrote:

Wedi darllen neges Geraint, rwy'n hoffi'r 'Grog'n fawr iawn ond wedi dweud hynny mae defnyddio'r 'Groes' yr un mor  hen (yn ol Geiriadur Prifysgol Cymru) ar gyfer y darnau o bren y croeshoeliwyd Iesu arnynt. 

Mae cyfeiriad at 'y wir groes' yn y nofel ddiwedar 'Y Groes Naidd' gan Lyn Jones a Mel Hopkins.

Muiris



On 7 March 2014 13:03, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:

Y Wir Groes yn iawn.  Mae darn ohoni i'w gweld mewn Eglwys Gatholig yng Ngogledd Cymru (dw I 

M



On 7 March 2014 10:23, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Cyd-destun:- 
Martin≤ went on to Arezzo to view Piero’s eight frescoes illustrating the legend of the True Cross.


Y Wir Groes? ta oes na ryw derm penodol?

Anna



Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!