Print

Print


Gan ategu neges Ann ynghylch priflythrennau, carwn ddweud “Ystyriwch y brain”. Yn fynych gwelir ffurfiau unigol enwau adar ac ati mewn cyfieithiadau, ac mae’n amlwg o graffu ar y cyd-destun y dylid bod wedi defnyddio’r lluosog – gwaetha’r modd mae’r ffurfiau lluosog mor anghyfarwydd bellach i lawer o bobl fel eu bod yn cael eu hesgeuluso. Yn yr un modd ag y mae Ann yn cadarnhau ei phwynt drwy gyfeirio at “Gath a Chi” gan amlygu na fyddem yn defnyddio priflythrennau wrth sôn am y rhain, awgrymaf ein bod yn “ystyried y brain”, gan fod gwneud hynny’n ddull hwylus o weld ai’r unigol neu’r lluosog sydd ei angen arnoch.  Pan fydd angen cyfeirio at greadur arnoch, yn eich meddwl rhoddwch ‘frân’ neu ‘frain’ yn y frawddeg i weld pa un sy’n naturiol ac os taw’r ffurf luosog sy’n gweddu mae angen defnyddio ffurf luosog y creadur sydd dan sylw.

 

Hwyl

 

Llŷr

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 March 2014 20:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ffyngau a mwsogl

 

Mae'n ddrwg iawn gennyf am yr oedi, Rhian.  Dyma'r awgrymiadau eraill:
Earthy Powdercap (Cystoderma amianthinum) - pen blodiog priddlyd (mae'n debyg bod y "priddlyd/earthy" yn cyfeirio at yr arogl.
Waved Silk Moss (Plagiothecium undulatum) - mwsogl sidan tonnog

Cofiwch nad oes angen y priflythrennau yn fwy nag y mae eu hangen wrth son am Gath na Chi (gallaf anfon erthygl gan Bruce ynghylch hyn os bydd ar unrhyw un eisiau copi).

Ann

On 04/03/2014 14:56, Rhian Jones wrote:

Faswn i ddim callach pa rai sy’n beryg! Diolch yn fawr iawn Ann. 

Rhian 

 

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

Sent: Tuesday, March 04, 2014 2:47 PM

Subject: Re: Ffyngau a mwsogl

 

Tamaid (peryglus iawn?) i aros pryd.  Bydd yn rhaid iddyn nhw fathu rhywbeth ar gyfer y lleill.

Earthy Powdercap (Cystoderma amianthinum)

Meadow Coral (Clavulinopsis corniculata) - cwrel corniog

Petticoat Mottlegill (Panaeolus papilionaceus) - brithdegyll eddîog (os nad yw'n ymddangos, mae to bach ar yr "i")

Parasitic Bolete (Boletus parasiticus) - cymeraf mai hwn ydy o, sef cap tyllog parasitaidd:
Pseudoboletus parasiticus, previously known as Boletus parasiticus and Xerocomus parasiticus, commonly known as the "Parasitic Bolete" is a rare, inedible Boletaceae mushroom found on earthballs


Waved Silk Moss (Plagiothecium undulatum)

Ann



On 03/03/2014 11:44, Rhian Jones wrote:

Diolch

Rhian

 

From: [log in to unmask]">Ann Corkett

Sent: Monday, March 03, 2014 11:39 AM

Subject: Re: Ffyngau a mwsogl

 

Mi hola i a ydy'r grwp termau ffyngau wedi'u cyrraedd eto.  Erbyn pryd mae angen gwybod?

Ann

On 02/03/2014 17:30, Rhian Jones wrote:

Helo

Oes na rywun wedi gweld enwau Cymraeg ar y rhain os gwelwch yn dda?

 

 

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiadau yn gyfrinachol ac wedi'u bwriadu at ddefnydd yr unigolyn y'u cyfeiriwyd ato/ati yn unig. Os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r sawl a'i hanfonodd ar unwaith, dilwch y neges o'ch cyfrifiadur a dinistriwch unrhyw gopau papur ohoni. Ni ddylech ddangos yr e-bost i neb arall, na gweithredu ar sail y cynnwys. Eiddo'r awdur yw unrhyw farn neu safbwyntiau a fynegir, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwynt y Cyngor. Dylech wirio am firysau eich hunan cyn agor unrhyw atodiad. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu niwed a all fod wedi'i achosi gan firysau meddalwedd neu drwy ryng-gipio'r neges hon neu ymyrryd hi.

 

This e-mail and any attachments are confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. If received in error please notify the sender immediately, delete the message from your computer and destroy any hard copies. The e-mail should not be disclosed to any other person, nor the contents acted upon. Any views or opinions expressed are those of the author and do not necessarily represent those of the Council. You should carry out your own virus check before opening any attachment. We accept no liability for any loss or damage which may be caused by software viruses or interception/interruption of this mail.