Dwi'n meddwl bod y cystrawen hon yn agos i'r hon yn fy llyfr gramadeg Groeg a elwir "concessive use of participle". Mae'r gair 'although' yn awgrymwyd; felly cyfieithiad syml fyddai'n defnyddio 'er'. --Mark On 03/13/14 05:48, Ann Corkett wrote: > Ydych chi wedi sylw ar ddiflaniad y berf Saesneg "to be" cyn y gair > "but" ar y cyfryngau? > Ni cheir mwyach > Stocks are at record highs—but so are earnings > ond > Stocks may be at record highs—but so are earnings > > Ni cheir: > Cameron is prime minister, but he governs in coalition with the Liberal > Democrats. > ond > Cameron may be prime minister, but he governs in coalition with the > Liberal Democrats. > > Gall hyn fod yn broblem i'r cyfieithydd. Sylwais ar enghraifft yn > ddiweddar lle 'roedd cyfieithydd wedi delio ag ymadrodd tebyg fel petai > gwir amheuaeth ynghylch y ffeithiau, ac 'rwyf wedi gorfod cysylltu a > chwsmeriaid yn fwy nag unwaith i ofyn ym mha ystyr y maent yn > defnyddio'r "may be", felly mae rhaid bod yn ymwybodol o'r amwysedd. > > Ann