Mae'r pethau fel hyn yn bwysig. Bum yn cyfieithu unwaith mewn cyfarfod a oedd yn ystyried cais am gymorthdal. Bu trafodaeth o chwarter awr o leiaf, a bron i'r cais gael ei gyfeirio'n ol ar gyfer rhagor o wybodaeth, i aros am fisoedd tan y cyfarfod nesaf, nes i rywun sylweddoli bod yr ymgeisydd wedi ysgrifennu "will cost" yn lle "would cost", gan ddrysu holl ffigyrau'r cais. Ann On 13/03/2014 13:35, GERAINT LOVGREEN wrote: > Dwi wedi sylwi ar ddiflaniad "might" hefyd! Pobol yn deud "may" o hyd > rwan ac mae'n swnio'n hollol anghywir. > > Geraint > > ------------------------------------------------------------------------ > *From:* Ann Corkett <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Thursday, 13 March 2014, 11:57 > *Subject:* Re: Rhybudd: diflaniad y erf "to be" > > Wrth gwrs, mae wedi mynd yn rhemp mewn ffordd arall, gan gael ei > ddefnyddio yn lle "might", sydd hefyd yn achosi dryswch, e.e. > *Cwyn wrth /The Times//:/* > “You report of Charles Kennedy that ‘a voluntary public confession… > may have saved his job’.He did not make the confession and his job was > not saved.It might have been saved, or it could have been saved, but > it was not saved.” > [/The Times//] /Style Guide is quite clear: > “May/might: do not confuse; use ‘might’ in sentences referring to past > possibilities that did not happen, e.g. ‘If that had happened ten days > ago, my whole life might have been different’.” > > Ann > > On 13/03/2014 11:53, Muiris Mag Ualghairg wrote: >> Rhaid cyfaddef nad oeddwn i wedi sylwi arno o'r blaen ond rwy'n siwr >> y byddaf i'n sylwi arno drwy'r amser nawr :-) >> >> Mae 'may' wedi mynd yn rhemp yn Saesneg fel y noda Sylvia. >> >> >> 2014-03-13 11:07 GMT+00:00 Sylvia Prys Jones <[log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]>>: >> >> Cytuno'n llwyr Anne. Teimlaf fod y ferf 'may' yn cael ei >> ddefnyddio'n llawer rhy aml yn gyffredinol yn Saesneg. Un >> enghraifft fach. >> >> The team members will be willing to answer any question you may have. >> >> Does dim angen 'a all fod gennych' neu rywbeth tebyg. Yn yr achos >> yma wrth gwrs, mae yna ansicrwydd ond teimlaf fod y geiriau 'any >> question' yn awgrymu nad yw'n sicr y bydd gan bobl gwestiynau. >> >> Bydd aelodau'r tîm yn fodlon ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych. >> >> Neu hyd yn oed 'unrhyw gwestiwn'. >> >> -----Original Message----- >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of Ann >> Corkett >> Sent: 13 March 2014 10:49 >> To: [log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]> >> Subject: Rhybudd: diflaniad y erf "to be" >> >> Ydych chi wedi sylw ar ddiflaniad y berf Saesneg "to be" cyn y gair >> "but" ar y cyfryngau? >> Ni cheir mwyach >> Stocks are at record highs—but so are earnings >> ond >> Stocks may be at record highs—but so are earnings >> >> Ni cheir: >> Cameron is prime minister, but he governs in coalition with the >> Liberal >> Democrats. >> ond >> Cameron may be prime minister, but he governs in coalition with the >> Liberal Democrats. >> >> Gall hyn fod yn broblem i'r cyfieithydd. Sylwais ar enghraifft yn >> ddiweddar lle 'roedd cyfieithydd wedi delio ag ymadrodd tebyg fel >> petai >> gwir amheuaeth ynghylch y ffeithiau, ac 'rwyf wedi gorfod cysylltu a >> chwsmeriaid yn fwy nag unwaith i ofyn ym mha ystyr y maent yn >> defnyddio'r "may be", felly mae rhaid bod yn ymwybodol o'r amwysedd. >> >> Ann >> >> >> Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565 >> >> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, >> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n >> unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi >> derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r >> anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y >> neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu >> ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu >> safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o >> anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol >> Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn >> rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei >> ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges >> e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr >> awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. >> >> This email and any attachments may contain confidential material >> and is solely for the use of the intended recipient(s). If you >> have received this email in error, please notify the sender >> immediately and delete this email. If you are not the intended >> recipient(s), you must not use, retain or disclose any >> information contained in this email. Any views or opinions are >> solely those of the sender and do not necessarily represent those >> of Bangor University. Bangor University does not guarantee that >> this email or any attachments are free from viruses or 100% >> secure. Unless expressly stated in the body of the text of the >> email, this email is not intended to form a binding contract - a >> list of authorised signatories is available from the Bangor >> University Finance Office. >> >> > > >