Holes i rai blynyddoedd yn ôl onid "Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru Gyf." fyddai'n gywir ("Cyf." sy'n cael ei defnyddio).

 

Esboniodd Berwyn nad oedd yna dreiglad am fod y gair 'cwmni' yn ddealledig fel rhan o'r ymadrodd - hynny yw "cwmni Cyfyngedig o'r enw Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru" oedd yr ystyr yn llawn.

 

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 03 Chwefror 2014 09:34
To: [log in to unmask]
Subject: Partneriaeth Cyfyngedig

 

Mae rhywun newydd dynnu fy sylw at y ffaith bod yn rhaid defnyddio “Partneriaeth Cyfyngedig” nid “Partneriaeth Gyfyngedig” oherwydd y rheoliadau hyn http://www.legislation.gov.uk/uksi/2009/1085/schedule/2/made?view=plain (gweler 3 (o))

 

Dau gwestiwn:

Sut na sylwodd neb ar hyn wrth i’r rheoliadau gael eu llunio?

a

Sut mae newid gwall gramadegol mewn deddfwriaeth?

 

Claire