Print

Print


Mae o’n anodd – achos dydy ‘hop on hop off’ ddim wir yn cyfleu’r union ystyr – dim ond bod pobl erbyn hyn yn deall beth mae’n ei olygu. Ydy o’n digwydd mewn brawddeg Alison ac ydy o’n cyfeirio at ddinas/dref benodol?  Meddwl dw i y gallai fod yn haws cael rhywbeth hollol wahanol.e.e. Bws Atyniadau? Fel rheol mae’r bysiau yma’n stopio yn y prif atyniadau tydyn?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Alison Reed
Sent: 26 Chwefror 2014 17:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hop on hop off

 

Ie, dyma sydd o dan sylw.  Dwi ei chael hi’n anodd cyfleu’r ystyr yn union yn y Gymraeg.

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 26 February 2014 16:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hop on hop off

 

Ym myd twristiaeth, o leiaf (o’r Travel Industry Dictionary) “hop-on-hop-off. A type of tourist bus or tram that follows a circular route with fixed stops through a city and that allows paying passengers unlimited travel for a day (or other period of time) with the freedom to disembark at any stop and reboard another bus or tram to continue their journey. Also referred to as “step on step off.””

 

Dwi ddim yn gwybod ai gwasanaeth i dwristiaid sydd dan sylw yma, cofiwch.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 26 February 2014 16:35
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hop on hop off

 

Dw i ddim yn meddwl bod ‘pan ddymunwch’ mewn gwirionedd y cyfleu’r ystyr – mae ‘pan’ i fi yn awgrymu amser yn hytrach na ‘lle’. Sori, dw i ddim yn gallu cynnig dim byd llawer gwell chwaith! Mae’n bosib bod angen meddwl am y peth mewn ffordd hollol wahanol h.y. mae rhywun yn prynu tocyn dydd mae’n debyg sy’n golygu eu bod nhw’n gallu defnyddio’r bysiau yn ôl eu dewis ydyn nhw? Ai mewn dinas mae hyn? Ella y basa cael diffiniad o be’n union ydy’r cynllun yn ei gwneud hi’n haws i rywun feddwl yn fwy creadigol?

 

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Alison Reed
Sent: 26 Chwefror 2014 16:30
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hop on hop off

 

Y Ganolfan Croeso yn cynnig  “cewch eich codi pan y dymunwch”.  Felly beth am gwasanaeth “codi pan y dymunwch”?

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 26 February 2014 11:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: hop on hop off

 

Ha! Mae neidio oddi ar fws yn gallu bod yn beryg hefyd - heb sôn am hopian!

Serch hynny, dwi'n meddwl bod "Cam a Naid" yn dda.

 

Ro'n i wedi bod yn meddwl rhywbeth fel hyn:

Dydi'r Saesneg ddim yn dweud yn glir beth yw'r gwasanaeth ond mae pawb yn gwybod.  Beryg bod angen i'r Gymraeg gyfleu'r ystyr yn gliriach?

Rhywbeth fel "Mewn a mas lle mynnwch" - ond bod angen rhywbeth ar gyfer Cymru gyfan.

 

 

 

 

On 2014 Chwef 26, at 10:49 AM, Dafydd Timothy wrote:

 

Iawn...ond bod 'disgyn oddi ar fws' ddim yn recymendyd!


On 26/02/2014 10:45, Alison Reed wrote:

Beth am “esgyn a disgyn”?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 26 February 2014 10:29
To: [log in to unmask]
Subject: Re: FW: hop on hop off

 

Beth am rhywbeth ar hyd y trywydd: Gwasanaeth Cam a Naid , sef y syniad o 'gamu mlaen' a 'neidio ffwrdd' lle bynnag/pryd bynnag?


On 26/02/2014 09:46, Alison Reed wrote:

 

 

 

Sôn am wasanaeth bws “hop on hop off”.  Unrhyw syniadau plîs?