Print

Print


Helo Claire,
Ydy hyn o gymorth?
corgoed e.ll. (ll. dwbl corgoedydd).  Coed bychain crablyd; stunted or dwarf
trees.   (G.P.C.)

 

Wranglands, s. crangc-goed, cor-goediach, cor-goed  (Geiriadur Saesoneg a Chymraeg: An
English and Welsh dictionary... , Thomas Jones, 1811)

 

          Wranglands,  misgrown trees, that will never prove
Timber.  (An English Dictionary:
Explaining the Difficult Terms, Elisha Coles)

 

“Yma a thraw mae corgoed derw

Yn cadw’n grintach dan y graig,”  (‘Cwm Rhondda’, Euros Bowen)

Hwyl,
    Dewi.
Date: Mon, 24 Feb 2014 12:11:50 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: dwarf tree(s)
To: [log in to unmask]









 
Gan mai ‘corlwyn’ yw ‘dwarf shrub’ a ‘corblanhigyn’ yw ‘dwarf plant’, byddwn i wedi disgwyl mai ‘cor-goed’ yw ‘dwarf trees’, ond alla i ddim gweld unrhyw enghreifftiau ar y we.
 
Unrhyw arddwyr mas ’na all ddweud wrtha i?
 
Diolch.
Claire
 
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig
 yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
 
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A
 Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.