Dwi'n cytuno efo ti Carolyn, faswn i'n glynu at 'myfyrwyr' neu 'disgyblion' yn y GYmraeg.Geraint
From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, 10 February 2014, 16:26
Subject: Re: Learners
Cytuno - mae 'dysgwyr' i mi yn cyfleu'n syth 'dysgwyr Cymraeg'. Hefyd mae defnyddio 'learners' yn cymhlethu petha i ni yn y Gymraeg am ein bod yn methu gwahaniaethu rhwng 'learners' a 'teachers' (mae na'r gair athrawon, mi wn, ond petai'r gair yn crwydro i faes berf mi fasa na anawstera).Anna
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2014-02-10 17:20 GMT+01:00 Carolyn <[log in to unmask]>:Mae disgyblion a myfyrwyr erbyn hyn yn cael eu galw’n ‘learners’ yn y rhan fwyaf o’r dogfennau addysg sy’n cael eu cyhoeddi ond ydy sôn am ‘ddysgwyr’ mewn dogfen Gymraeg yn gallu bod yn gamarweiniol? Dw i’n meddwl y byddwn i ar yr olwg gyntaf yn meddwl mai cyfeirio at bobl sy’n dysgu’r Gymraeg y mae’r gair ‘dysgwyr’ yn enwedig am fod y ddogfen dw i’n ei chyfieithu’n sôn am niferoedd sy’n dilyn cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg ac ati. Yn Saesneg, byddai rhywun yn dweud ‘Welsh learners’ am bobl sy’n dysgu’r iaith ond dan ni’n tueddu i ddweud ‘dysgwyr’ neu ydw i’n cymhlethu pethau’n ddiangen?Carolyn