Cofiwn gerbron Duw, a chyflwynwn i’w ofal grasol; y rhai a fu farw mewn rhyfel dros eu gwlad; y rhai a adwaenem, a’r rhai y mae eu cof yn annwyl inni; a phawb a fu byw a marw mewn gwasanaeth i’r ddynolryw. Annwyl ffrindiau Rwyf wedi addasu rhywfaint ar gynnig Wyn – byddaf yn hapus i glywed eich barn. Diolch Bet Bet Eldred Cwmni Cyfieithu Cain Cyfieithydd – Translator [log in to unmask] 0777 368 9798 From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of GERAINT LOVGREEN Sent: 03 February 2014 09:32 To: [log in to unmask] Subject: Re: and those whose memory we treasure Ond dydi hwnna ddim yn dweud "and those whose memory we treasure", nachdi? Mae'n dweud "and the memory of those we treasure", sydd ddim cweit yr un peth. Hefyd, faswn i'n meddwl bod 'mankind' wedi'i newid i humanity am resymau gwleidyddol gywir - 'human' yn lle 'man'. Ond does dim pwynt neiwd 'dynolryw' i 'ddynoliaeth' - mae 'dynol' yn dal yno yn dydi! Geraint _____ From: Wyn Hobson <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Monday, 3 February 2014, 8:22 Subject: Re: and those whose memory we treasure Mae fy ngwraig wedi dod o hyd i'r cyfieithiad canlynol mewn trefn gwasanaeth ar gyfer Sul y Cofio a gyhoeddwyd gan Gangen Bethesda'r Lleng Brydeinig: Coffawn gerbron Duw a chyflwynwn i'w ofal grasol: Y rhai a fu farw mewn rhyfel tros eu gwlad. Y rhai a adwaenem, a choffâd y rhai a drysorwn, ynghyd â phawb a fu byw a marw mewn gwasanaeth i ddynolryw. ('mankind' oedd yn y Saeseg; 'i'r ddynoliaeth' fuasai cyfieithiad manwl o 'of humanity', rwy'n cymryd) Wyn