Ie, ond fyswn i ddim yn gwneud rhyw syms ac yn gofyn i gydweithiwr "Wnei di wirio rheina i fi, plis?". Dyna pam ro'n i'n dweud ei fod yn dibynnu ar y cyd-destun. Mae angen iddo fod reit swyddogol - i mi, beth bynnag. Sent from Samsung Mobile -------- Original message -------- From: anna gruffydd <[log in to unmask]> Date: 07/02/2014 17:39 (GMT+00:00) To: [log in to unmask] Subject: Re: To check a document Cytuno. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2014-02-07 18:36 GMT+01:00 Cyfieithydd Achlysurol <[log in to unmask]>: Rwy'n credu bod gwirio wedi ennill ei blwy erbyn hyn. I fi o leia, mae'n awgrymu rhywbeth mwy trylwyr na bwrw golwg dros rywbeth. Bwrw golwg dros ddarn (i fi) yw'r rhan olaf yn y broses, sef ei frasddarllen er mwyn sicrhau ei fod yn swnio mor naturiol â phosib ac nad oes unrhyw wallau amlwg wedi'u hychwanegu wrth ei olygu. On Feb 7, 2014 2:22 PM, "Sian Roberts" <[log in to unmask]> wrote: Ydi, mewn cyd-destun swyddogol. Hen air hyll fydda i'n ei weld, 'fyd a braidd yn jargonllyd. Ond fy mhroblem i yw honno! Siân On 2014 Chwef 7, at 1:52 PM, GERAINT LOVGREEN wrote: Mae gwirio yn ddigon cyffredin erbyn hyn hefyd. From: Sian Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Friday, 7 February 2014, 13:02 Subject: Re: To check a document Dibynnu ar y cyd-destun. Mae "edrych dros" yn gallu swnio'n fwy naturiol. Siân On 2014 Chwef 7, at 12:55 PM, Angharad Evans wrote: Prynhawn da Beth yw'r ffordd orau o gyfieithu to check a document? A yw gwirio dogfen yn dderbyniol? Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth. Cofion Angharad