'Roeddwn i wedi teipio hwn cyn cyrraedd neges David. (i) St Bride's Haven: Dyma neges a anfonodd Claire ar ol trafodaeth hir yn 2005. Ai'r un lle yw'r Bay a'r Haven? Er gwybodaeth, dyma gawsom ni gan griw Enwau Cymru ar gyfer rhai ar y rhestr. Point Lynas - Trwyn Eilian Carmel Head - Trwyn y Gader Strumble Head - Pen Caer St David's Head - Penmaen Dewi St Bride's Bay - Bae San Ffręd St Govan's Head - Pentir Gofan Worm's Head - Pen Pyrod (ii) Burnett's Hill Ateb Bruce: Gellid dweud Bryn Burnett, am a wn i, neu Bryn Bwrned, ond mae'n *bosibl* mai "lle wedi'i losgi" yw "burnet(t), neu enw unigolyn. Ni chofnodwyd unrhyw enw Cymraeg. (iii) Hazelbeach Ateb Bruce: "Hazels grow near the beach" meddai B G Charles yn "The Place-names of Pembrokeshire". Ni chofnodwyd enw Cymraeg. Gellid dweud "Morfa Cyll" os mynnir. Ann On 22/02/2014 13:05, EIRA PARRY wrote: > Oes rhywun yn gwybod beth yw'r uchod yn y Gymraeg? Mae nhw i gyd yn > Sir Benfro. > > At hyn, ydyn nhw'n arddel enwau strydoedd Cymraeg ym mhobman yn Sir > Benfro? Cyfeirio ydw i at 'South Street', Dale. > > Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth, > > Eira