MANNAU SYDD AR GAEL
CyMAL Cwrs rhad ac am ddim
Paratoi at Godi Arian
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
13-Mawrth-2014
Mae'r cwrs hwn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n agored i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini sy’n newydd i godi arian a/neu’n meddwl am ddechrau
codi arian yn eu mudiad am y tro cyntaf.
Nod
Gwella dealltwriaeth mudiadau treftadaeth o’r materion allweddol i’w hystyried cyn dechrau codi arian.
Erbyn diwedd y cwrs bydd cyfranogwyr yn:
- Deall beth a olygir wrth godi arian a’r ffynonellau gwahanol o incwm drwy godi arian
- Deall y gofynion cyfreithiol ac arfer gorau o ran codi arian
- Gallu penderfynu a yw eu mudiad yn addas i’r diben
- Gwerthfawrogi’r sgiliau a’r dulliau angenrheidiol er mwyn codi arian
- Deall y cylch cynllunio ar gyfer codi arian
Dulliau Hyfforddi
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal drwy ddysgu cyfunol: bydd y sesiwn hyfforddi mewn ystafell ddosbarth yn cael ei hatodi gan adnoddau dysgu ychwanegol a fydd ar gael arlein; a chyswllt ffôn ac ebost â hyfforddwyr arbenigol. Bydd y sesiwn hyfforddi yn
defnyddio cymysgedd priodol ac arloesol o ddulliau er mwyn sicrhau dysgu effeithiol.
Hyfforddwr
Mae gan Eileen Kinsman, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, dros 20 mlynedd o brofiad yn codi arian ac yn hyfforddi. Mae gan Sara Carroll, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, brofiad helaeth o gynghori a hyfforddi ym maes cyllido, gan gynorthwyo mudiadau
trydydd sector i gael mynediad at ffynonellau cyllid newydd a’u rheoli.
Cofrestru
Cewch archebu lle ar y cwrs hwn drwy ddefnyddio eich tudalen gofrestru EventBrite
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam - 13-Mawrth-2014
Bydd pob gohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r cwrs hwn yn cael ei anfon allan yn electronig unwaith y byddwch wedi cofrestru; felly byddwn angen cyfeiriad ebost unigol ar gyfer pob cynadleddwr er mwyn cadw eich lle.
Mae cyfyngu ar y lleoedd felly archebwch yn gynnar.
Os fydd eich amgylchiadau'n newid wedi hyn ac na allwch fod yn bresennol hysbyswch Lauren Baldwin ar unwaith ar [log in to unmask]
neu 0300 062 2251 fel ei bod yn bosibl rhoi eich lle i rywun arall ar y rhestr aros.
Lauren Baldwin
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhoddfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2251
[log in to unmask]
CyMAL contact number : 0300 062 2112
Dylai unrhyw ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid yn rhai gan Lywodraeth Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig
â hi.
Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not those of the Welsh Government, any constituent part or connected body.
P Please
consider the environment - do you really need to print this email?
Ystyriwch yr amgylchedd - a oes gwir angen i chi argraffu'r dudalen hon, e-bost?