Print

Print


Datblygiad Proffesiynol Parhaus Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn cynnig y cyrsiau am ddim a ganlyn i sefydliadau creadigol a diwylliannol sy'n darparu cyfleoedd datblygu gyrfa i bobl ifanc.

Recriwtio a Chadw Prentisiaid Creadigol

Dydd Mercher 5 Mawrth, 10am-2pm gan gynnwys cinio rhwydweithio

Lleoliad: Sgiliau Creadigol a Diwylliannol, 1 Caspian Point, Stryd Pierhead, Caerdydd CF10 4DQ

Mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn gweithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau a Busnes Cymru i ddarparu'r cyfle hyfforddiant am ddim hwn i fusnesau creadigol a diwylliannol sy'n ystyried cyflogi prentisiaid a / neu interniaid taledig.

Yn ystod y dydd, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn archwilio arferion da yn y meysydd a ganlyn:


  *   Dylunio disgrifiad swydd a manyleb person
  *   Hysbysebu eich swydd
  *   Cynnal cyfweliadau a dewis yr ymgeisydd iawn
  *   Cynefino a rheolaeth llinell unwaith y bydd y lleoliad wedi dechrau.



Bydd cyfle i drafod yr heriau a'r cyfleoedd a wynebir wrth gyflogi pobl ifanc, a chlywed astudiaethau achos gan brentisiaid a chyflogwyr.
Mae’r hyfforddwraig Dorothy Johnson yn ymgynghorydd Adnoddau Dynol profiadol o HR Connexions Wales http://www.hrconnexionswales.co.uk/

Cliciwch ar y ddolen hon i archebu lle https://www.surveymonkey.com/s/RL7F39H
mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.


Mentora : Y Genhedlaeth Greadigol Nesaf
Dydd Gwener y 7fed o Fawrth 2014, 10am-5pm

Lleoliad: YMCA Abertawe, 1 Ffordd y Brenin, Abertawe, Gorllewin Morgannwg, SA1 5JQ
Mae Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn gweithio gyda Phartneriaeth Celfyddydau Ieuenctid Swydd Rydychen i gynnig cwrs un diwrnod am ddim i artistiaid, gweithwyr proffesiynol y celfyddydau a sefydliadau diwylliannol sy'n dymuno defnyddio mentora i ddatblygu sgiliau, doniau a phrofiad artistiaid ac arweinwyr celfyddydau sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu rhagor o ddealltwriaeth o fentora effeithiol. Byddwn yn trafod manteision mentora pobl ifanc, ynghyd â’r manteision i’r sawl sy’n mentora a'r sawl sy’n cael eu mentora. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn edrych ar fodelau o arferion da ac astudiaethau achos, yn ymgymryd ag ymarferion creadigol y gellir eu defnyddio a'u haddasu yn eu gwaith gyda phobl ifanc. Byddwch yn cael dealltwriaeth well o’r hyn sydd ei angen i ddarparu adnoddau ar gyfer mentora effeithiol a rhai o'r heriau y gallech ddod ar eu traws.
Cliciwch ar y ddolen hon i archebu lle https://www.surveymonkey.com/s/S98QTZL mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Am ragor o wybodaeth am y cyrsiau, cysylltwch â Dienka Hines ar 02920 444195 neu [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>

Am ragor o wybodaeth ynghylch ein hymgyrch Meithrin Cenedl Greadigol ac addo eich cefnogaeth, ewch i http://building-a-creative nation.org/supporters/support-us








Dienka Hines

Apprenticeship Manager, Wales



Creative & Cultural Skills

1 Caspian Point

Pierhead Street

Cardiff Bay

Cardiff CF10 4DQ

02920 444195


Dienka Hines

Rheolwr Prentisiaeth, Cymru



Sgiliau Creadigol a Diwylliannol

1 Pentir Caspian

Stryd Pierhead

Bae Caerdydd

Caerdydd CF10 4DQ

02920 444195


[cid:image659ac7.JPG@006e7119.4fb1b05d]<http://ccskills.org.uk>         [cid:imagecf1764.JPG@4612df3d.4f81452b] <http://building-a-creative-nation.org/?utm_source=campaign&utm_medium=email&utm_content=email%20signature&utm_campaign=email%20signature>


ccskills.org.uk<http://ccskills.org.uk> [cid:imagedfafca.JPG@394e3497.4f8692bf] <http://twitter.com/CCSkills>   / nsa-ccskills.co.uk<http://nsa-ccskills.co.uk> [cid:image4c8aef.JPG@3ede1e07.4086949d] <http://twitter.com/nsacreative>  [cid:image07be36.JPG@37f49ac7.4cada502] <http://www.facebook.com/nsacreative>




[X]



<http://nsa-ccskills.co.uk/industry_conference/industry-conference>

<http://nsa-ccskills.co.uk/industry_conference/industry-conference?utm_source=email&utm_medium=email%2Bfooter&utm_term=Annual%2BConference&utm_campaign=email%2Bfooter>

This e-mail is confidential and is intended only for the addressee(s) named above. If you have received this message in error please notify the originator immediately by a short reply to this email or by phoning +44 (0)207 015 1800. The unauthorised use, disclosure, copying or alteration of this message is strictly forbidden. Please note that it cannot be guaranteed that this message or any attachment is virus free or has not been intercepted and amended.

P Please consider the environment - do you really need to print this email?