Fydd 'na ddim *rhaid* wrth y gair "ffwng". Cewch ei adael allan neu ei gynnwys mewn cromfachau sgwar yn ol yr hyn sy'n briodol.
Ann
On 31/01/2014 16:00, Cyfieithydd Achlysurol wrote:
Ffwng crachen helyg. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.
2014-01-31 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
"crachen helyg" yw'r cynnig gan aelodau'r gweithgor.
Cofion,
Ann
On 31/01/2014 00:52, Cyfieithydd Achlysurol wrote:
Diolch yn fawr am eich parodrwydd i helpu, rwy'n ddiolchgar iawn
On Jan 31, 2014 12:41 AM, "Ann Corkett" <[log in to unmask]> wrote:
Mae Bruce, Duncan, Twm & Co wrthi'n gweithio ar enwau ffyngau ar hyn o bryd, ond ni allaf weld yr enw ar y drafft diweddaraf sydd gennyf o'r rhestr hyd yn hyn. Erbyn pryd mae angen ateb, er mwyn inni drio cael rhywbeth a fydd yn ateb y gofyn yn barhaol yn lle rhywbeth dros dro?
Ann
On 30/01/2014 23:33, Cyfieithydd Achlysurol wrote:
sef Cryptomyces maximus. Rwy'n methu dod o hyd i enw Cymraeg ar y we nac yn y rhestrau geirfa sy gen i ar y cyfrifiadur. Mae chwant arna i ei alw'n gudd-ffwng mwyaf(!) ond mae'n siŵr bod enw gwell na hynny i'w gael.Diolch am bob cymorth