Credaf fod yn werth rhoi sylw i deimladau’r
bobl a ddynodir wrth y termau dan sylw. Wedi’r cyfun, rydym ni i gyd yn
corddi wrth weld neu glywed For
Yn iach,
T
From:
Sent: 06 January 2014 14:57
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: homosexual
Mae hwn yn
ymddangos fel enghraifft o ddilyn y Saesneg yn slafaidd.
Mae "homosexual" yn cael ei ystyried yn sarhaus am fod y gair wedi
cael ei ddefnyddio mewn ffordd sarhaus. (Beryg y bydd yr un dynged yn dod i ran
"gay" cyn bo hir hefyd.)
Ond dydi "cyfunrywiol" ddim yn derm sarhaus o gwbl, a dydi'r gair
erioed wedi cael ei ddefnyddio mewn ffordd sarhaus chwaith - os rhywbeth mae
"anghyfunrywiol" yn swnio'n fwy sarhaus!! Mae demoneiddio
geiriau fel hyn yn blentynnaidd yn fy marn i.
Ac mi o'n i'n meddwl mai mantais "hoyw" oedd y gallai gwmpasu pawb,
ond na, mae'n rhaid creu rhaniadau o fewn rhaniadau eto. Lol botes maip.
Geraint
From: Cyfieithydd Achlysurol
<[log in to unmask]>
To:
[log in to unmask]
Sent: Monday, 6 January 2014,
12:30
Subject: Re: homosexual
'Ydi hi'n
well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol"?'
Ydy, yn
gyffredinol. Gall termau fel 'cyfunrywiol' ymddangos braidd yn sarhaus
o'u defnyddio mewn cyd-destun cyffredinol, a dylid osgoi 'gwrywgydiol' yn gyfan
gwbl'
Mae maes
rhywioldeb ac ymlyniad rhywiol yn ddyrys tu hwnt ac mae mor hawdd pechu rhywun
yn gwbl anfwriadol. Mae'r Saesneg yn frith o acronymau a
thalfyriadau; o LGBT ac LGBTQ i QUILTBAG (o ddifrif!) a rhai sy'n llai cofiadwy
byth, hyd yn oed i arbenigwyr yn y maes.
On Jan 6,
2014 11:27 AM, "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
wrote:
Rwy'n
cyfieithu Ffurflen Fonitro ynghylch Cyfle Cyfartal.
"Homosexual"
yw un o'r dewisiadau.
Mae
TermCymru'n cynnig "Cyfunrywiol" ac yna, o dan "Mwy o
fanylion" - "neu hoyw".
Mae
"Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau" gan
Stonewall yn dweud:
"Cyfunrywiol: Yn cael ei ystyried gan rhai yn y
gymuned LHD i fod yn derm dirmygus a sarhaus. Mae'n tarddu o ddisgrifiad
meddygol pan ystyriwyd atyniad / perthynas o'r un rhyw yn salwch meddwl.
Defnyddiwch: hoyw, lesbiad, dyn/dynes hoyw,
deurywiol, dyn/menyw deurywiol neu yr acronym LHD (lesbiaidd, hoyw a
deurywiol)."
ond wedyn
mae'n dweud:
"Hoyw: Ymadrodd cyffredinol am bobl
lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n well osgoi defnyddio'r gair hwn ar gyfer bob
person LHD gan y gall neilltuo pobl lesbiaidd a deurywiol.
Defnyddiwch: Lesbiaidd, hoyw
neu ddeurywiol, neu'r acronym LHD."
Felly, ydi
hi'n well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol"?
Diolch
Siān
This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad