Mae hwn yn ymddangos fel enghraifft o ddilyn y Saesneg yn slafaidd.
Mae "homosexual" yn cael ei ystyried yn sarhaus am fod y gair wedi cael ei ddefnyddio mewn ffordd sarhaus. (Beryg y bydd yr un dynged yn dod i ran "gay" cyn bo hir hefyd.)
Ond dydi "cyfunrywiol" ddim yn derm sarhaus o gwbl, a dydi'r gair erioed wedi cael ei ddefnyddio mewn ffordd sarhaus chwaith - os rhywbeth mae "anghyfunrywiol" yn swnio'n fwy sarhaus!! Mae demoneiddio geiriau fel hyn yn blentynnaidd yn fy marn i.
Ac mi o'n i'n meddwl mai mantais "hoyw" oedd y gallai gwmpasu pawb, ond na, mae'n rhaid creu rhaniadau o fewn rhaniadau eto. Lol botes maip.
Geraint
From: Cyfieithydd Achlysurol <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, 6 January 2014, 12:30
Subject: Re: homosexual
'Ydi hi'n well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol"?'Ydy, yn gyffredinol. Gall termau fel 'cyfunrywiol' ymddangos braidd yn sarhaus o'u defnyddio mewn cyd-destun cyffredinol, a dylid osgoi 'gwrywgydiol' yn gyfan gwbl'Mae maes rhywioldeb ac ymlyniad rhywiol yn ddyrys tu hwnt ac mae mor hawdd pechu rhywun yn gwbl anfwriadol. Mae'r Saesneg yn frith o acronymau a thalfyriadau; o LGBT ac LGBTQ i QUILTBAG (o ddifrif!) a rhai sy'n llai cofiadwy byth, hyd yn oed i arbenigwyr yn y maes.On Jan 6, 2014 11:27 AM, "Sian Roberts" <[log in to unmask]> wrote:Rwy'n cyfieithu Ffurflen Fonitro ynghylch Cyfle Cyfartal."Homosexual" yw un o'r dewisiadau.Mae TermCymru'n cynnig "Cyfunrywiol" ac yna, o dan "Mwy o fanylion" - "neu hoyw".Mae "Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau" gan Stonewall yn dweud:"Cyfunrywiol: Yn cael ei ystyried gan rhai yn y gymuned LHD i fod yn derm dirmygus a sarhaus. Mae'n tarddu o ddisgrifiad meddygol pan ystyriwyd atyniad / perthynas o'r un rhyw yn salwch meddwl.Defnyddiwch: hoyw, lesbiad, dyn/dynes hoyw, deurywiol, dyn/menyw deurywiol neu yr acronym LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)."ond wedyn mae'n dweud:"Hoyw: Ymadrodd cyffredinol am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n well osgoi defnyddio'r gair hwn ar gyfer bob person LHD gan y gall neilltuo pobl lesbiaidd a deurywiol.
Defnyddiwch: Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu'r acronym LHD."Felly, ydi hi'n well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol"?DiolchSiān