Gobeithio y bydd y bathiad yma'n cydio.
Doeddwn i ddim yn hoffi 'Wythnos Adrodd Straeon Genedlaethol' (ar wefan Cadw) ar gyfer 'National Storytelling Week' yn ddiweddar, gan fod yr ansoddair wedi'i osod yn y lle anghywir. 'Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon' fyddai orau o ran trefn y geiriau, am wn i.
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfieithydd Achlysurol
Sent: 21 Ionawr 2014 23:06
To: [log in to unmask]
Subject: Independent Press Standards Organisation - IPSO
Methu dod o hyd i ddim byd ar y we felly ai Sefydliad Annibynnol Safonau'r Wasg sy'n gywir ar gyfer y corff newydd hwn (yr olynydd i Gomisiwn Cwynion y Wasg a sefydlwyd gan rai cwmnïau papur newydd)? Mae'n hwyr ac rwy'n dechrau amau fy ngallu i feddwl yn glir!
Diolch yn fawr