Diolch Ann. Eto, o'n i'n ymwybodol o hynny. Ond cyfeirio at y morwr mae o yn y darn dan sylw (rhywun yn cyfeirio ato'i hun fel Cape Horner). 
Mae hwyliwr yr Horn yn addas iawn. Diolch!

Anfonwyd ar fy ffôn i-dot

On 20 Jan 2014, at 00:06, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:

Sylwer (o'r un erthygl Wikipedia) bod yr ymadrodd yn medru golygu llong hefyd.

Mae'n reit debyg bod 'na derm, ond gan nad yw Aled Eames efo ni mwyach pwy yn y byd fyddai'n gwybod heb ddarllen ei holl lyfrau! (ac yn darganfod yn y diwedd, mae Bruce yn amau, mai "hornar" oedd y gair!)  Awgryma Bruce rywbeth fel "llongwr rownd yr Horn/ llong rownd yr Horn", neu  (gen i) beth am "hwyliwr yr Horn"?

Ann
On 19/01/2014 23:13, Cyfri Dot wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Diolch. Dwi'n hollol ymwybodol o hynny ac eisoes wedi'i ddefnyddio. Ond roedd 'Cape Horner' yn enw ar y morwyr oedd wedi rowndio'r Horn a dyna oeddwn i'n holi. 

Anfonwyd ar fy ffôn i-dot

On 19 Jan 2014, at 22:06, Cyfieithydd Achlysurol <[log in to unmask]> wrote:

Mae J Glyn Davies (Santiana - Cerddi Huw Puw) yn sôn am "rowndio'r Horn", ac mae'r gân fôr enwog Rownd yr Horn.  Os oedd yn ddigon da i longwyr JGD, mae'n fwy na digon da i fi.

On Jan 19, 2014 3:19 PM, "CATRIN ALUN" <[log in to unmask]> wrote:
Oes 'na derm Cymraeg tybed?

Catrin 

Cape Horner is a term that denotes a captain of a sailing ship which has sailed around Cape Horn