Diolch Ann. Eto, o'n i'n ymwybodol o hynny. Ond cyfeirio at y morwr mae o yn y darn dan sylw (rhywun yn cyfeirio ato'i hun fel Cape Horner). Mae hwyliwr yr Horn yn addas iawn. Diolch! Anfonwyd ar fy ffôn i-dot > On 20 Jan 2014, at 00:06, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: > > Sylwer (o'r un erthygl Wikipedia) bod yr ymadrodd yn medru golygu llong hefyd. > > Mae'n reit debyg bod 'na derm, ond gan nad yw Aled Eames efo ni mwyach pwy yn y byd fyddai'n gwybod heb ddarllen ei holl lyfrau! (ac yn darganfod yn y diwedd, mae Bruce yn amau, mai "hornar" oedd y gair!) Awgryma Bruce rywbeth fel "llongwr rownd yr Horn/ llong rownd yr Horn", neu (gen i) beth am "hwyliwr yr Horn"? > > Ann >> On 19/01/2014 23:13, Cyfri Dot wrote: >> Diolch. Dwi'n hollol ymwybodol o hynny ac eisoes wedi'i ddefnyddio. Ond roedd 'Cape Horner' yn enw ar y morwyr oedd wedi rowndio'r Horn a dyna oeddwn i'n holi. >> >> Anfonwyd ar fy ffôn i-dot >> >> On 19 Jan 2014, at 22:06, Cyfieithydd Achlysurol <[log in to unmask]> wrote: >> >>> Mae J Glyn Davies (Santiana - Cerddi Huw Puw) yn sôn am "rowndio'r Horn", ac mae'r gân fôr enwog Rownd yr Horn. Os oedd yn ddigon da i longwyr JGD, mae'n fwy na digon da i fi. >>> >>>> On Jan 19, 2014 3:19 PM, "CATRIN ALUN" <[log in to unmask]> wrote: >>>> Oes 'na derm Cymraeg tybed? >>>> >>>> Catrin >>>> >>>> Cape Horner is a term that denotes a captain of a sailing ship which has sailed around Cape Horn >