Daw'r isod o restr enwau creaduriaid morol gawson ni gan yr hen Gyngor Cefn Gwlad. Wireweed (Sargassun muticum)- gwymon (g) sargaso, sargaswm (g) Wakame (Undaria pinnatifida) - morwiail asennog ll. Harpoon weed (Asparagopsis armata) - gwymon bachog g. Mae yna Dead Man's Fingers ond yr enw Lladin a roddir yw Alcyonium digitatum: yr enwau Cymraeg a roddir ar hwnnw yw llaw farw (dwylo meirwon) b., cwrel byseddog g., bysedd meirwon. Does dim sôn am Codium fragile spp. Tomentosoides) yn y rhestr. Does dim sôn chwaith am y chwistrell fôr benodol Didemnum vexillum, chwaith. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Tegwen Williams Sent: 15 January 2014 16:13 To: [log in to unmask] Subject: Re: Wireweed, Wakame, Harpoon weed, Devil's tongue weed, Dead Man's Fingers; Carpet Sea Squirt Mae gen i restr o rywogaethau estron rydw i'n chwilio am enwau Cymraeg arnynt, fel hyn: Planhigion: Wireweed (Sargassun muticum) Wakame (Undaria pinnatifida) Harpoon weed (Asparagopsis armata) Devil's Tongue weed (Grateloupia turuturu) Dead Man's Fingers (Codium fragile spp. Tomentosoides) Anifail: Carpet Sea Squirt (Didemnum vexillum) Tybed oes rhywun wedi dod ar eu traws o'r blaen ac yn gallu awgrymu rhywbeth? Diolch yn fawr Tegwen