Helo
Dydw i ddim yn siwr o union sillafiad yr uchod ond cefais sgwrs gyda nyrs
mewn uned i fabanod sy’n cael eu geni cyn eu hamser am y term uchod. Maen
nhw’n cynhyrchu llyfryn i rieni sy’n cyfeirio at premmie, sef baban bach
wedi’i eni cyn ei amser. O beth dwi’n ei ddeall, mae’r term hwn yn cael ei
ddefnyddio mewn ffordd fwy annwyl rhywsut.
Roedd y nyrs yn sôn am ‘baban twts’ neu ‘baban bychan’. Mae ei
chydweithwyr yn hoff o faban twts ond yn ofni efallai na fyddai gogleddwyr yn
ei ddeall. Beth yw eich barn chi? Rwy’n credu bod ‘baban bychan’ yn ddigon
annwyl hefyd ac efallai’n derm cliriach i bawb.
Diolch
Melanie