Dw i ddim yn siwr ydi hynny'n mynd i weithio. Hyd y gwela i, "hunanladdiad" sy'n cael ei ddefnyddio fel rheol wrth drafod y pwnc a'r weithred unigol. Fyddai "hunanladd" ddim yn gweithio beth bynnag am y byddai'r acen ar y goben. Efallai y byddai "hunan-ladd" yn well pe bai angen defnyddio'r gair. Mae sawl ffordd o fynegi'r peth os oes angen amrywiaeth - GyrA - eich lladd eich hun, Jur: cyflawni hunanladdiad, F:gwneud eich diwedd eich hun, gwneud diwedd arnoch eich hun, gwneud amdanoch eich hun Cofion Siān On 2014 Ion 3, at 3:58 PM, Dafydd Timothy wrote: > > Rydw i, yng nghyd-destun y ddogfen dwi'n ei chyfieithu, yn gwahaniaethu rhwng y pwnc 'suicide', sef hunanladd, a gweithred unigol benodol o 'suicide', sef hunanladdiad. > Fase chi'n cytuno ar hyn? > Dwi am iddo fod yn ddealladwy, ond ddim am gyffredinoli er mwyn hwylustod symleiddio. > > Pwnc y ddogfen ydi: > > Prevention of suicide and support for families affected by suicide .... NID 'a suicide'. > > Diolch, > Dafydd