Rhaid imi fod yn fwy ofalus ynghylch y straeon 'rwy'n eu hadrodd wrthit, Anna! Er na allaf peidio a son am ein trip i Lyon, flynyddoedd yn ol, pan oedd 'sanau patrymog yn ffasiynol iawn a finnau eisiau prynu par yn bresant i gyfeilles. Nid oeddent ar gael yn y siopau cyffredin, ond soniwyd wrthym am enw rhyw gadwyn o siopau a oedd yn arbenigo mewn dillad isaf. Gan nad oedd fy Ffrangeg yn ddigon hyderus, Bruce a aeth at ddwy wraig ganol oed yn y stryd a dweud rhywbeth i'r perwyl: Excusez moi, mesdames; je cherches 'Baisers Sauvages'" (Esgusodwch fi, foneddigesau; 'rwy'n chwilio am gusanau gwylltion). Wnaethon nhw gynhyrfu dim! Ann On 06/01/2014 14:40, anna gruffydd wrote: > Sori, Ann Corkett, - couldn't resist! Ond mi gafodd Bruce be oedd o > isio, sef slanced, nid dynas chwydd! > > > > Ye who opt for cut'n'paste > Tread with care and not in haste! > > > 2014/1/6 Cyfieithydd Achlysurol <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > > O naddo! Druan ag e! > > On Jan 6, 2014 1:10 PM, "anna gruffydd" <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > Dwi'n lecio QUILTBAG yn arw - newydd ei Wglo i weld be oedd > o'n feddwl. Bron cystal a Bruce (Griffiths) yn mynd i siop a > gofyn am 'slutty' pan oedd am brynu slanket i Ann (Corkett) yn > bresant Dolig. > > Ye who opt for cut'n'paste > Tread with care and not in haste! > > > 2014/1/6 Cyfieithydd Achlysurol > <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> > > 'Ydi hi'n well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol"?' > > Ydy, yn gyffredinol. Gall termau fel 'cyfunrywiol' > ymddangos braidd yn sarhaus o'u defnyddio mewn cyd-destun > cyffredinol, a dylid osgoi 'gwrywgydiol' yn gyfan gwbl' > > Mae maes rhywioldeb ac ymlyniad rhywiol yn ddyrys tu hwnt > ac mae mor hawdd pechu rhywun yn gwbl anfwriadol. Mae'r > Saesneg yn frith o acronymau a thalfyriadau; o LGBT ac > LGBTQ i QUILTBAG (o ddifrif!) a rhai sy'n llai cofiadwy > byth, hyd yn oed i arbenigwyr yn y maes. > > On Jan 6, 2014 11:27 AM, "Sian Roberts" > <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > Rwy'n cyfieithu Ffurflen Fonitro ynghylch Cyfle Cyfartal. > > "Homosexual" yw un o'r dewisiadau. > > Mae TermCymru'n cynnig "Cyfunrywiol" ac yna, o dan > "Mwy o fanylion" - "neu hoyw". > > Mae "Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn > Adroddiadau Cyfryngau" gan Stonewall yn dweud: > *"Cyfunrywiol:* Yn cael ei ystyried gan rhai yn y > gymuned LHD i fod yn derm dirmygus a sarhaus. Mae'n > tarddu o ddisgrifiad meddygol pan ystyriwyd atyniad / > perthynas o'r un rhyw yn salwch meddwl. > *Defnyddiwch:* hoyw, lesbiad, dyn/dynes hoyw, > deurywiol, dyn/menyw deurywiol neu yr acronym LHD > (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)." > > ond wedyn mae'n dweud: > > *"Hoyw:* Ymadrodd cyffredinol am bobl lesbiaidd, hoyw > a deurywiol. Mae'n well osgoi defnyddio'r gair hwn ar > gyfer bob person LHD gan y gall neilltuo pobl > lesbiaidd a deurywiol. > *Defnyddiwch:* Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu'r > acronym LHD." > > Felly, ydi hi'n well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu > ddeurywiol"? > > Diolch > > Siān > > > >