Mae Bruce, Duncan, Twm & Co wrthi'n gweithio ar enwau ffyngau ar hyn o bryd, ond ni allaf weld yr enw ar y drafft diweddaraf sydd gennyf o'r rhestr hyd yn hyn. Erbyn pryd mae angen ateb, er mwyn inni drio cael rhywbeth a fydd yn ateb y gofyn yn barhaol yn lle rhywbeth dros dro? Ann On 30/01/2014 23:33, Cyfieithydd Achlysurol wrote: > sef Cryptomyces maximus. Rwy'n methu dod o hyd i enw Cymraeg ar y we > nac yn y rhestrau geirfa sy gen i ar y cyfrifiadur. Mae chwant arna i > ei alw'n gudd-ffwng mwyaf(!) ond mae'n siŵr bod enw gwell na hynny i'w > gael. > > Diolch am bob cymorth