Os cewch chi gyfle, Tegwen, a fyddai modd ei newid yn "gwymon tafod y cythraul".  'Roedd Bruce ar fin awgrymu "tafod y cythraul" yn niffyg unrhyw beth arall, ond efallai bod angen "gwymon" gan fod planhigyn o'r un enw.
Mae Bruce wastad yn dweud bod "diafol" yn air o ddiwinyddiaeth yn unig, a "cythraul" yw'r "devil" sy'n ymddangos mewn enwau planhigion a phethau byd natur.

Ann
On 16/01/2014 15:24, Tegwen Williams wrote:
[log in to unmask]" type="cite">

Mae’n siŵr mai ‘sargassum’ sy’n gywir, Ann, nid ‘sargassun’.

 

Rydw i wedi cysylltu â chyfieithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r rhan fwyaf o’r enwau ar eu rhestr o Rywogaethau Morol, fel y nododd Claire. Nid oedd y ‘Carpet Sea Squirt’ yno, ond rwy wedi rhoi ‘Chwistrell Fôr Garped’ fel yr awgrymodd Bethan. Defnyddiais ‘Gwymon Pengrwn Brau’ am ‘Codium fragile’, sy’n digon manwl gan fod ‘spp. Tomentosoides’ yn ymddangos ar ôl ‘Codium fragile’.

 

Yr unig enw sydd ar goll o’r rhestr yw ‘Devil’s Tongue Weed (Grateloupia turuturu)’. Rwy wedi cyfieithu hwnnw’n  llythrennol a rhoi ‘Gwymon Tafod y Diafol’. Gobeithio fod hynny’n dderbyniol. Mae’r gwaith wedi cael ei ddychwelyd erbyn hyn.

 

Diolch i bawb am eich help.

 

Tegwen

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 16 January 2014 14:48
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wireweed, Wakame, Harpoon weed, Devil's tongue weed, Dead Man's Fingers; Carpet Sea Squirt

 

'Rwy'n meddwl bod yr enwau sydd gan Claire yn dod o'r rhestr a adolygwyd gan Bruce a Llyr Gruffydd; maent yn cytuno a hi, beth bynnag.
Gyda llaw, onid "sargassum" yw'r gair, nid "sargassun"?

Mae Codium fragile'n ymddangos yn yr un rhestr, ond dan rai o'i enwau eraill: sea velvet, sea staghorn, spongeweed.  Y Gymraeg yw: gwymon pengrwn brau g., melfed (g) môr.
Codais yr isod o Wikipedia:
"Codium fragile, known commonly as green sea fingers, dead man's fingers, felty fingers, forked felt-alga, stag seaweed, sponge seaweed, green sponge, green fleece, and oyster thief, is an invasive species of seaweed in the family Codiaceae. ...
"The subspecies Codium fragile subsp. tomentosoides (syn. Codium mucronatum var. tomentosoides), occurs along nearly the whole coastline of the eastern United States, from the Gulf of St. Lawrence in Canada to North Carolina."
Mae tudalen ar safle arall ynghylch "Green sea-fingers (tomentosoides) - Codium fragile fragile.  Fe welwch bod "green sea-fingers" a "dead man's fingers" yn enwau ar codium fragile yn gyffredinol, nid ar yr isrywogaeth yn unig.  Felly beth am "gwymon pengrrwn brau (tomentosoides)"?

Mae rhaid bod Bethan yn iawn ynghylch Didemnum vexillum, achos mae 'na boster Cymraeg amdano ar wefan Welsh Sailing:
http://welshsailing.co.uk/wp-content/uploads/2012/06/Alien-species-carpet-sea-squirt-welsh.pdf
Mae'r poster yn cyfeirio pobl at y Cyngor Cefn Gwlad (fel yr oedd), felly mae'n reit bosibl mai oddi wrth hwnnw y daeth yr wybodaeth.
Os felly, oni'r peth hawsaf fyddai cysylltu a chyfieithwyr Cyfoeth Naturiol a holi ynghylch yr enwau i gyd.  Mae'n dechrau ymddangos eu bod nhw i gyd yn ymwneud a rhywogaethau estron sy'n dechrau mynd yn bla.

O ran Devil's tongue weed, nid oes gennym ddim goleuni hyd yn hyn, ond awn ar ei ol.  Erbyn pryd mae angen yr wybodaeth? Os cewch chi ateb gan Gyfoeth Naturiol, a wnewch chi roi gwybod, os gwelwch yn dda, i arbed ail-ddyfeisio'r olwyn.

Ann



On 15/01/2014 16:36, Bethan Jones wrote:

Dwi wedi clywed chwistrell fôr garped am Didemnum vexillum

 

Cofion
Bethan
01248 723510
07713 862792
[log in to unmask]
Skype: bethan.wyn.jones.talwrn
Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF

 

From: [log in to unmask]">Claire Richards

Sent: Wednesday, January 15, 2014 4:29 PM

Subject: Re: Wireweed, Wakame, Harpoon weed, Devil's tongue weed, Dead Man's Fingers; Carpet Sea Squirt

 

Daw’r isod o restr enwau creaduriaid morol gawson ni gan yr hen Gyngor Cefn Gwlad.

 

Wireweed (Sargassun muticum)- gwymon (g) sargaso, sargaswm (g)

Wakame (Undaria pinnatifida) - morwiail asennog ll.

Harpoon weed (Asparagopsis armata) - gwymon bachog g.

 

Mae yna Dead Man’s Fingers ond yr enw Lladin a roddir yw Alcyonium digitatum: yr enwau Cymraeg a roddir ar hwnnw yw llaw farw (dwylo meirwon) b., cwrel byseddog g., bysedd meirwon.  Does dim sôn am Codium fragile spp. Tomentosoides) yn y rhestr.

 

Does dim sôn chwaith am y chwistrell fôr benodol Didemnum vexillum, chwaith.

 

Claire

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Tegwen Williams
Sent: 15 January 2014 16:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Wireweed, Wakame, Harpoon weed, Devil's tongue weed, Dead Man's Fingers; Carpet Sea Squirt

 

Mae gen i restr o rywogaethau estron rydw i’n chwilio am enwau Cymraeg arnynt, fel hyn:

 

Planhigion:

Wireweed (Sargassun muticum)

Wakame (Undaria pinnatifida)

Harpoon weed (Asparagopsis armata)

Devil’s Tongue weed (Grateloupia turuturu)

Dead Man’s Fingers (Codium fragile spp. Tomentosoides)

 

Anifail:

Carpet Sea Squirt (Didemnum vexillum)

 

Tybed oes rhywun wedi dod ar eu traws o’r blaen ac yn gallu awgrymu rhywbeth?

 

Diolch yn fawr

Tegwen



---------------------------------------------------------------------------------------------------
Text inserted by Panda GP 2013:

This message has NOT been classified as spam. If it is unsolicited mail (spam), click on the following link to reclassify it: It is spam!
---------------------------------------------------------------------------------------------------