[log in to unmask]" type="cite">Sori, Ann Corkett, - couldn't resist! Ond mi gafodd Bruce be oedd o isio, sef slanced, nid dynas chwydd!
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2014/1/6 Cyfieithydd Achlysurol <[log in to unmask]>
O naddo! Druan ag e!
On Jan 6, 2014 1:10 PM, "anna gruffydd" <[log in to unmask]> wrote:
Dwi'n lecio QUILTBAG yn arw - newydd ei Wglo i weld be oedd o'n feddwl. Bron cystal a Bruce (Griffiths) yn mynd i siop a gofyn am 'slutty' pan oedd am brynu slanket i Ann (Corkett) yn bresant Dolig.
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2014/1/6 Cyfieithydd Achlysurol <[log in to unmask]>
'Ydi hi'n well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol"?'
Ydy, yn gyffredinol. Gall termau fel 'cyfunrywiol' ymddangos braidd yn sarhaus o'u defnyddio mewn cyd-destun cyffredinol, a dylid osgoi 'gwrywgydiol' yn gyfan gwbl'
Mae maes rhywioldeb ac ymlyniad rhywiol yn ddyrys tu hwnt ac mae mor hawdd pechu rhywun yn gwbl anfwriadol. Mae'r Saesneg yn frith o acronymau a thalfyriadau; o LGBT ac LGBTQ i QUILTBAG (o ddifrif!) a rhai sy'n llai cofiadwy byth, hyd yn oed i arbenigwyr yn y maes.
On Jan 6, 2014 11:27 AM, "Sian Roberts" <[log in to unmask]> wrote:
Rwy'n cyfieithu Ffurflen Fonitro ynghylch Cyfle Cyfartal.
"Homosexual" yw un o'r dewisiadau.
Mae TermCymru'n cynnig "Cyfunrywiol" ac yna, o dan "Mwy o fanylion" - "neu hoyw".
Mae "Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau" gan Stonewall yn dweud:"Cyfunrywiol: Yn cael ei ystyried gan rhai yn y gymuned LHD i fod yn derm dirmygus a sarhaus. Mae'n tarddu o ddisgrifiad meddygol pan ystyriwyd atyniad / perthynas o'r un rhyw yn salwch meddwl.Defnyddiwch: hoyw, lesbiad, dyn/dynes hoyw, deurywiol, dyn/menyw deurywiol neu yr acronym LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)."
ond wedyn mae'n dweud:
"Hoyw: Ymadrodd cyffredinol am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n well osgoi defnyddio'r gair hwn ar gyfer bob person LHD gan y gall neilltuo pobl lesbiaidd a deurywiol.
Defnyddiwch: Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu'r acronym LHD."
Felly, ydi hi'n well dweud "Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol"?
Diolch
Siân