Gweithio gyda babanod a phlant o dan 5 oed – cwrs byr
 
Rydym wedi datblygu’r cwrs byr newydd hwn yn dilyn llwyddiant y cyrsiau undydd llawn achrededig gan CyMAL ar weithio gyda babanod a phlant o dan 5 oed. Mae wedi’i drefnu mewn ymateb i’r galw am gwrs o’r fath a’r bwriad pennaf yw rhoi i wirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru y cyfle i feithrin y sgiliau hynny. Rydym hefyd yn croesawu staff a gwirfoddolwyr sy’n cael anhawster i fynychu cwrs undydd llawn.
Nid pwrpas y cwrs yw cymryd lle’r cyrsiau undydd llawn sy’n cynnig achrediad ac sy’n cynnwys elfennau cynllunio. Os yw eich rôl yn cynnwys dyletswyddau cynllunio byddem yn eich annog yn bendant i fynychu’r cwrs undydd llawn er mwyn datblygu’r sgiliau priodol.
 
Disgrifiad o’r cwrs
Cwrs ymarferol iawn sy’n edrych ar ffyrdd effeithiol o gefnogi’r broses o ddysgu a mwynhau gyda babanod, plant ifanc a’u teuluoedd.
Deilliannau dysgu disgwyliedig
  1. syniadau ar gyfer cynnal sesiynau llwyddiannus i blant dan 5 oed
  2. strategaethau ar gyfer sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i gymryd rhan a mwynhau
  3. dulliau o reoli ymddygiad plant a rhieni yn ystod sesiynau
  4. mwy o hyder wrth ddewis deunydd addas a defnyddio arteffactau, llyfrau, atgynyrchiadau ac adnoddau eraill yn y Gymraeg a Saesneg mewn sesiynau i blant o dan 5 oed
 
Y dulliau hyfforddi
Bydd y cwrs yn gwbl gyfranogol, gyda chyfleoedd cyson i rannu syniadau ac arferion da ac i holi cwestiynau a lleisio pryderon. Bydd cymysgedd o waith mewn grwpiau bach a sesiynau grŵp llawn.
 
Y paratoi
Gofynnir i gynrychiolwyr gwblhau'r holiadur sydd ynghlwm a'i anfon at [log in to unmask]. (peidiwch â phoeni os nad oes fawr o brofiad gennych yn y maes dan sylw).
 
Arweinydd y cwrs
Hyfforddwraig a darlithydd annibynnol yw Anne. Mae’n arbenigo ar ddatblygiad darllen plant a phobl ifanc, a llyfrgelloedd plant ac ysgolion.
 
Cofrestru
I gadw lle ar y cwrs, ewch i’n tudalen gofrestru EventBrite
 
Sesiwn y bore - http://www.eventbrite.com/e/working-with-babies-and-children-under-5-short-course-10-july-2014-gweithio-gyda-babanod-a-phlant-o-registration-10448404459?aff=mail
 
Sesiwn y prynhawn - http://www.eventbrite.com/e/working-with-babies-and-children-under-5-10-july-2014-gweithio-gyda-babanod-a-phlant-o-dan-5-oed-10-registration-10370292825?aff=mail
 
 
Caiff yr holl ohebiaeth fydd yn gysylltiedig â’r cwrs hwn ei anfon allan yn electronig unwaith y byddwch wedi cofrestru. Bydd angen i ni felly gael cyfeiriadau e-bost unigol gan bawb er mwyn cadw lle ar eich cyfer ar y cwrs.
 
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau eich lle yn gynnar. Os yw eich amgylchiadau'n newid ar ôl i chi gael lle ac rydych yn methu mynd wedi'r cyfan, a fyddech cystal â rhoi gwybod i Lauren Baldwin drwy e-bost [log in to unmask] neu ffonio 0300 062 2251 ar unwaith fel y gallwn roi eich lle i rywun sydd ar y rhestr wrth gefn.
 
 
 
 
Lauren Baldwin
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhoddfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2251
[log in to unmask]
CyMAL contact number : 0300 062 2112

Dylai unrhyw ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod gael eu hystyried yn rhai personol ac nid yn rhai gan Lywodraeth Cymru, unrhyw ran ohoni neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig â hi.

Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not those of the Welsh Government, any constituent part or connected body.

P Please consider the environment - do you really need to print this email?
Ystyriwch yr amgylchedd - a oes gwir angen i chi argraffu'r dudalen hon, e-bost?
 
 
 

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.