Wnes i feddwl yn syth am "ochrau B" neu "ail ochrau senglau" (fel y dywedodd rhywun doedd pob A-side ddim yn hit).
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Sunday, December 29, 2013 7:04 PM
Subject: Re: B-side

"Os yw'r cyd-destun yn cyfeirio'n benodol at oes senglau feinyl" - ydi, mae o - cyngerdd gan y Searchers sy dan sylw. Ochrau B amdani felly. Mae hynny'n ddealladwy, tydi - sori, dwi'n troi efo pob gwynt. Ochrau B faswn i di'i ddeud yn reddfol yn y dechra. Diolch i bawb.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


2013/12/29 Dafydd Tomos <[log in to unmask]>
On Dec 29, 2013, anna gruffydd wrote:
> Mae 'ail gan ar y record' i mi yn swnio fel ail gan ar albwm. Ma gofyn
> cyfleu, yn does, mai caneuon oedden nhw ar ochr arall record sengl hit, na
> chafodd mond gweld gola dydd am eu bod nhw yno yn sgil yr hit.

Wel, dyw can ar A-side ddim o anghenrheidrwydd yn golygu ei fod yn
'hit' ond roedd caneuon B-side yn cael eu dewis yn fwriadol am eu bo
nhw'n ganeuon llai masnachol, llai tebygol o fod yn hit.

Ers dyfodiad CDs a wedyn ffeiliau digidol mae'r syniad wedi newid i
fod yn draciau 'bonws', fersiynau arall, ail-gymysgiadau ac yn y
blaen.

Os yw'r cyd-destun yn cyfeirio'n benodol at oes senglau feinyl,
efallai mai defnyddio 'Ochrau B' fyddai orau.

Ond os yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun modern - mae'n
disgrifio traciau llai cyfarwydd, llai poblogaidd.
Ydi'n bosib dweud "caneuon llai cyfarwydd"?

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3658/6456 - Release Date: 12/28/13