Diolch bawb am eich cyfraniadau. Felly ai ‘draenogyn y môr’ a ‘draenogiaid y môr’ yw’r consensws? Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Bethan Jones Sent: 28 November 2013 16:58 To: [log in to unmask] Subject: Re: sea bass Fi sydd wedi teipio’n flêr. draenogiaid oeddwn i’n drio ei roi lawr am sea bass, achos fel arfer mae rhywun yn sôn amdanyn nhw yn y lluosog; draenogyn ydi un. draenog môr am sea urchin, achos anaml mae rhywun yn gweld mwy nag un o’r Echinoderm yma hefo’i gilydd. Cofion Bethan [log in to unmask] Skype: bethan.wyn.jones.talwrn Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF From: Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]> Sent: Thursday, November 28, 2013 2:44 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: sea bass Ond cofiwch bod draenogiad, draenogyn, a draenog yn rhannu'r un lluosog, sef draenogiaid/ draenogod. (Sonia Rhian fod enghreifftiau o "draenogiad" ar Google, ond mae Bruce yn methu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i'r ffurf mewn unrhyw restr - ydy rhywun wedi gweithio'n ol o "draenogiaid"?) Gyda llaw: Google: draenog y mor - tua 52 enghraifft + William Owen Pughe, draenawg y mor. draenogyn y mor - 0 draenogiad y mor - 3 draenogiaid y mor - 3 draenogod y mor - 0 Ann Ni all Bruce ddod o hyd i dystiolaeth ar gyfer "draenogiad" On 28/11/2013 13:38, Bethan Jones wrote: Mae’n haws defnyddio draenog môr am sea urchin dwi’n credu, gan ei fod yn edrych mor debyg i ddraenog a draenogiad môr am sea bass. Cofion Bethan [log in to unmask] Skype: bethan.wyn.jones.talwrn Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF From: Ann Corkett <mailto:[log in to unmask]> Sent: Thursday, November 28, 2013 12:13 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: sea bass Nid yw Bruce yn cofio erbyn hyn o ble daeth “ysbinbysg”, ond mae’n weddol sicr na wnaeth iddo ei ddyfeisio. Beth bynnag am hynny, y broblem gyntaf yw’r Saesneg, y ffaith y defnyddir “bass” am bysgod o wahanol rywogaethau. Bydd yn rhaid gofyn i’r cwsmer pa un mae’n ei olygu, a’i enw Lladin. Wedyn, mae problem yn y Gymraeg. Defnyddir “draenog mo^r” *A* “draenogyn mo^r” ar gyfer sea-bass yn y Gymraeg. Y rheswm i Llyr Gruffydd a Bruce ddewis y cyntaf i’w ddefnyddio yn rhestr y Cyngor Cefn Gwlad oedd bod creadur arall hefyd yn dwyn yr enw “draenog mo^r”, sef y “sea urchin”. A fydd cyd-destun yr adroddiad yn ei gwneud hi’n amlwg mai’r pysgodyn a olygir? Onid e, efallai dylid rhoi’r enw Saesneg mewn cromfachau hefyd y tro cyntaf. Ann Mae Bruce wedi ymhelaethu ar ol darllen fy nghrynodeb! “Draenog mo^r” ydy, neu oedd, yr enw llafar ym Mangor yn ol WVBD Fynes-Clinton. Bathodd rhywun draenogiad/ draenogyn, mae’n debyg, er mwyn ceisio gwahaniaethu rhwng y pysgodyn a’r pysgodyn cragen, y “sea-urchin”. Ni wn o ba le y daeth “swilyn” Cym. Ed. Llwyd; mae’n swnio fel enw llafar o rywle fel Glannau Lly^n. Ni ddywedir fawr ddim am “ysbinbysg” yng nGPC; mae’n swnio fel benthyciad gan eiriadurwr o’r oes o’r blaen ac fe’i cynhwyswyd yng nGA gan fod yr enw “draenog mo^r” yn anffodus yn gallu golygu dau greadur pur wahanol. Mae “pysgodyn garw” yn enw llafar ‘dw i’n tybio. (Hoffwn atgoffa pawb y cwblhawyd y gwaith ar GA cyn i Gym. Ed. Llwyd ddechrau cyhoeddi ei rhestrau awdurdodol ar nifer o feysydd ym myd natur). Awgrymaf ddweud “draenog mo^r” (+ yr enw Lladin/ Saesneg os bydd perygl camddeall). Mewn byd perffaith gellid mynd ati i gywiro sawl peth yn GA, ond dywed y wasg y wasg nad oes modd newid y testun “caled” ac ni chynhwyswyd cywiriadau ac ychwanegiadau ers rhyw wyth mlynedd bellach. Bruce On 28/11/2013 12:00, Geraint Lovgreen wrote: Digon safonol - dyna sydd yn rhesyt Cymd Edward Llwyd ----- Original Message ----- From: Cyfieithydd Achlysurol <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, November 28, 2013 11:35 AM Subject: Re: sea bass Draenogyn (draenogod) y môr yw sea bass i fi, ond efallai nad yw hynny'n ddigon safonol i'w ddefnyddio mewn adroddiad On Nov 28, 2013 9:36 AM, "Claire Richards" <[log in to unmask]> wrote: Fyddai modd holi’r awdur am enw Lladin y rhywogaeth dan sylw? Un broblem yw bod yr enw Saesneg “sea bass / seabass” yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynifer o wahanol rywogaethau o gwmpas y byd. Os mai Dicentrarchus labrax a olygir, mae rhestr Cyngor Cefn Gwlad Cymru (fel yr oedd) yn rhoi “draenogyn (draenogiaid) (g) môr*, pysgodyn garw (pysgod geirwon) g.” Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 28 November 2013 08:49 To: [log in to unmask] Subject: sea bass Bore Da Tybed all rhywun fwrw goleuni ar yr uchod. Mae llawer o enghreifftiau o ‘draenogiad y môr’ ar Gwgl, ond yng Ngeiriadur yr Academi ‘bass’ yw draenogiad y môr a rhoddir ‘ysbinbysgod y môr’ am sea bass. Mae’r ddau rywogaeth yn wahanol o’r hyn dwi’n ei ddeall, ond erioed wedi clywed am ‘ysbinbysgod y môr’ a meddwl tybed oes enw mwy cyfarwydd? Mae gen i adroddiad lle mae’n dod i fyny’n aml iawn! Diolch ymlaen llaw Rhian No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6373 - Release Date: 11/27/13 ---------------------------------------------------------------------------- ----------------------- Text inserted by Panda GP 2013: This message has NOT been classified as spam. If it is unsolicited mail (spam), click on the following link to reclassify it: It is spam! <http://localhost:6083/Panda?ID=pav_1094&SPAM=true&path=C:%5CUsers%5CBethan% 5CAppData%5CLocal%5CPanda%20Security%5CPanda%20Global%20Protection%202013%5C AntiSpam> ---------------------------------------------------------------------------- ----------------------- </ ---------------------------------------------------------------------------- ----------------------- Text inserted by Panda GP 2013: This message has NOT been classified as spam. If it is unsolicited mail (spam), click on the following link to reclassify it: It is spam! <http://localhost:6083/Panda?ID=pav_1094&SPAM=true&path=C:\Users\Bethan\AppD ata\Local\Panda%20Security\Panda%20Global%20Protection%202013\AntiSpam> ---------------------------------------------------------------------------- -----------------------