Print

Print


Dan ni'n galw am bopeth yn Gymraeg felly fe ddylen ni ymfalchio bod dihirod a lladron o leia'n dangos rhywfaint o barch at yr iaith.

;-)
  ----- Original Message ----- 
  From: Sioned Graham-Cameron 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Tuesday, November 05, 2013 3:15 PM
  Subject: Re: Sbam a Sbamwyr


  Mi gefais inna'r un neges. Doedd o ddim gan ddieithryn chwaith - cyfieithydd arall roeddwn wedi cydweithio ag o, ac felly dyna pam roedd fy nghyfeiriad ebost i ganddo. Ei gyfeiriad o wedi cael ei hacio.


  Cnafon hyll yn wir, Anna.


  Sioned




  On 5 Nov 2013, at 15:08, anna gruffydd wrote:


    Wel wel, dyn'r tro cynta i mi weld un o'r sbams yna yn Gymraeg - Cymraeg oedd o dwad? wel, mwy ne lai. Cnafon hyll dyn nhw te - oes yna go iawn bobol sy mor hurt bost i goelio'r fath sothach gan ddieithryn llwyr????


    Anna




    Ye who opt for cut'n'paste

    Tread with care and not in haste!




    2013/11/5 Ann Corket <[log in to unmask]>

      Mae'n amlwg o'r isod bod sbamwyr yn mynd yn fwy cyfrwys, a'r feddalwedd cyfieithu awtomatig yn gwella - ynteu a ddylwn i fod yn picio i lawr at swyddfa Western Union?

      Helo,

      Gobeithio y byddwch yn cael hyn ar amser, Rydym yn gwneud taith i Manila, Philippines ac roedd ein bagiau dwyn o ni ein ffonau a chardiau credyd ynddo. Mae'r llysgenhadaeth yn barod i helpu drwy adael i ni hedfan yn ôl gartref ers i ni yn dal i gael ein pasbortau, Mae'n rhaid i ni dalu am ein tocyn ac yn setlo biliau Hotel. Yn anffodus i ni, nid oes gennyf fynediad i arian heb fy ngherdyn credyd, dwi wedi gwneud cysylltiad â'm banc ond mae angen mwy o amser i ddod o hyd i un newydd. Yr oeddwn yn meddwl am ofyn i chi roi benthyg mi (£ 2,450 GBP) y gallaf ei roi yn ôl cyn gynted ag y Rydym yn cael cartref. Mae gwir angen i ni fod ar yr awyren nesaf sydd ar gael. Rydw i'n drysu hynny ar hyn o bryd yr wyf angen help ar frys.

      Western Union yw'r opsiwn gorau i anfon arian i mi. Gadewch i mi wybod os ydych angen fy manylion i drosglwyddo'r arian.

      Mae pob gobeithion ar chi.





  No virus found in this message.
  Checked by AVG - www.avg.com
  Version: 2012.0.2242 / Virus Database: 3222/6309 - Release Date: 11/04/13