Print

Print


Draenogyn (draenogod) y môr yw sea bass i fi, ond efallai nad yw hynny'n
ddigon safonol i'w ddefnyddio mewn adroddiad
On Nov 28, 2013 9:36 AM, "Claire Richards" <[log in to unmask]> wrote:

> Fyddai modd holi’r awdur am enw Lladin y rhywogaeth dan sylw?  Un broblem
> yw bod yr enw Saesneg “sea bass / seabass” yn cael ei ddefnyddio ar gyfer
> cynifer o wahanol rywogaethau o gwmpas y byd.
>
>
>
> Os mai *Dicentrarchus labrax* a olygir, mae rhestr Cyngor Cefn Gwlad
> Cymru (fel yr oedd) yn rhoi “draenogyn (draenogiaid) *(g) *môr*, pysgodyn
> garw (pysgod geirwon) *g.”*
>
>
>
> Claire
>
>
>
> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian Huws
> *Sent:* 28 November 2013 08:49
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* sea bass
>
>
>
> Bore Da
>
>
>
> Tybed all rhywun fwrw goleuni ar yr uchod. Mae llawer o enghreifftiau o
> ‘draenogiad y môr’ ar Gwgl, ond yng Ngeiriadur yr Academi ‘bass’ yw
> draenogiad y môr a rhoddir ‘ysbinbysgod y môr’ am sea bass.
>
>
>
> Mae’r ddau rywogaeth yn wahanol o’r hyn dwi’n ei ddeall, ond erioed wedi
> clywed am ‘ysbinbysgod y môr’ a meddwl tybed oes enw mwy cyfarwydd? Mae gen
> i adroddiad lle mae’n dod i fyny’n aml iawn!
>
>
>
> Diolch ymlaen llaw
>
>
>
> Rhian
>