Print

Print


Fyddai modd holi'r awdur am enw Lladin y rhywogaeth dan sylw?  Un broblem yw bod yr enw Saesneg "sea bass / seabass" yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynifer o wahanol rywogaethau o gwmpas y byd.

 

Os mai Dicentrarchus labrax a olygir, mae rhestr Cyngor Cefn Gwlad Cymru (fel yr oedd) yn rhoi "draenogyn (draenogiaid) (g) môr*, pysgodyn garw (pysgod geirwon) g."

 

Claire 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 28 November 2013 08:49
To: [log in to unmask]
Subject: sea bass

 

Bore Da

 

Tybed all rhywun fwrw goleuni ar yr uchod. Mae llawer o enghreifftiau o 'draenogiad y môr' ar Gwgl, ond yng Ngeiriadur yr Academi 'bass' yw draenogiad y môr a rhoddir 'ysbinbysgod y môr' am sea bass.

 

Mae'r ddau rywogaeth yn wahanol o'r hyn dwi'n ei ddeall, ond erioed wedi clywed am 'ysbinbysgod y môr' a meddwl tybed oes enw mwy cyfarwydd? Mae gen i adroddiad lle mae'n dod i fyny'n aml iawn!

 

Diolch ymlaen llaw

 

Rhian