Mae “ply for hire” yn ymadrodd a geir mewn deddfwriaeth. Yn anffodus, rydyn ni wedi methu â chael hyd i unrhyw ddeddfwriaeth ddwyieithog sy’n cynnwys yr ymadrodd.
Fodd bynnag, mae geiriadur Robyn Lewis yn rhoi “ceisio hurio allan” am “plying for hire”, gyda nodyn sy’n dweud “[GPC-1774].”
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 27 November 2013 13:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ply for hire
Mae'n un anodd.
Efallai y gall hwn helpu: http://www.taxi-driver.co.uk/phpBB2/viewtopic.php?t=3615 Neu efallai ddim!
Rhywbeth fel "Rhaid i yrrwr beidio â chodi teithwyr ar hap" / "Rhaid i yrrwr beidio â chodi teithwyr heb drefniant ymlaen llaw"?
Dwi'm yn siwr
Siân
On 2013 Tach 27, at 12:30 PM, Cyfieithydd Achlysurol wrote:
Neu "(Cynnig) cario/cludo teithwyr am dâl/arian" efallai?
On Nov 26, 2013 7:28 PM, "Sioned Graham-Cameron" <[log in to unmask]> wrote:
Diolch yn fawr Dafydd - dwi'n meddwl y byddai hynny'n gweithio yn dda yn cyd-destun.
Gwych!
Sent from my iPhone
> On 26 Tach 2013, at 17:34, Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote:
>
>> On Nov 26, 2013, Sioned Graham-Cameron wrote:
>> Pnawn da
>>
>> Beth ddefnyddir am 'ply' yn y cyd-destun hwn? "A driver must not ply
>> for hire" yw'r frawddeg. "Gyrru tacsi" sydd yn GyA, ond cerbydau
>> hurio preifat sydd dan sylw, lle cludir teithwyr ar ?l trefnu ymlaen
>> llaw, yn hytrach na chodi pobl ar y stryd.
>
> Efallai rhywbeth fel "Nid yw gyrrwyr yn cael chwilio am gwsmeriaid" ?