Mae "ply for hire" yn ymadrodd a geir mewn deddfwriaeth. Yn anffodus, rydyn ni wedi methu ā chael hyd i unrhyw ddeddfwriaeth ddwyieithog sy'n cynnwys yr ymadrodd. Fodd bynnag, mae geiriadur Robyn Lewis yn rhoi "ceisio hurio allan" am "plying for hire", gyda nodyn sy'n dweud "[GPC-1774]." Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 27 November 2013 13:31 To: [log in to unmask] Subject: Re: ply for hire Mae'n un anodd. Efallai y gall hwn helpu: http://www.taxi-driver.co.uk/phpBB2/viewtopic.php?t=3615 Neu efallai ddim! Rhywbeth fel "Rhaid i yrrwr beidio ā chodi teithwyr ar hap" / "Rhaid i yrrwr beidio ā chodi teithwyr heb drefniant ymlaen llaw"? Dwi'm yn siwr Siān On 2013 Tach 27, at 12:30 PM, Cyfieithydd Achlysurol wrote: Neu "(Cynnig) cario/cludo teithwyr am dāl/arian" efallai? On Nov 26, 2013 7:28 PM, "Sioned Graham-Cameron" <[log in to unmask]> wrote: Diolch yn fawr Dafydd - dwi'n meddwl y byddai hynny'n gweithio yn dda yn cyd-destun. Gwych! Sent from my iPhone > On 26 Tach 2013, at 17:34, Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote: > >> On Nov 26, 2013, Sioned Graham-Cameron wrote: >> Pnawn da >> >> Beth ddefnyddir am 'ply' yn y cyd-destun hwn? "A driver must not ply >> for hire" yw'r frawddeg. "Gyrru tacsi" sydd yn GyA, ond cerbydau >> hurio preifat sydd dan sylw, lle cludir teithwyr ar ?l trefnu ymlaen >> llaw, yn hytrach na chodi pobl ar y stryd. > > Efallai rhywbeth fel "Nid yw gyrrwyr yn cael chwilio am gwsmeriaid" ?