Ond mae hynny’n golygu paratoi dwy fersiwn wahanol tydi? Beth am wneud rhywbeth fel hyn yn y ddwy fersiwn..... ‘ar wefan Ymgysylltu Cymru (y ddolen i’r wefan mewn cromfachau’n dilyn – i’r wefan Gymraeg os yw ar gael/i’r wefan Saesneg os nad yw). Sori os ydw i wedi camddeall y pwynt. Carolyn From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 25 Tachwedd 2013 09:04 To: [log in to unmask] Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau Na, beth mae Elin yn ddweud ydi cadw'r cyfeiriad fel y mae yn y fersiwn papur gweledol, ond golygu'r hyperddolen fel bod y fersiwn ar-lein, er yn dangos y cyfeiriad Saesneg, yn mynd i'r fersiwn Cymraeg. Fyddai dim pwynt rhoi www.engagementwales.com/cynhadledd yn unlle gan na fyddai'n arwain at unrhyw beth! Geraint ----- Original Message ----- From: Sian Roberts <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Sent: Sunday, November 24, 2013 2:37 PM Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau Ie, dyna ni. Dyweder bod y cyfeiriad Saesneg yn dweud www.engagementwales.com/conference <http://www.engagementwales.com/conference> ond bod y gwir gyfeiriad Cymraeg yn dweud www.engagementwales.com/news/conference/djodnwoemng/?diablo.lang=cym <http://www.engagementwales.com/news/conference/djodnwoemng/?diablo.lang=cym > , byddai modd rhoi www.engagementwales.com/cynhadledd <http://www.engagementwales.com/cynhadledd> i ddangos yn fersiwn y we ond byddai'n rhaid rhoi'r cyfeiriad Cymraeg llawn yn y copi papur. Ie? Diolch Siân On 2013 Tach 24, at 1:49 PM, Elin Davies wrote: Problem Sian oedd bod y testun yn mynd i fod yn electronig ac wedi ei argraffu ar bapur ia? Os felly, un ateb posibl ydi cadw'r cyfeiriad Saesneg fel testun gweledol, ond rhoi cyfeiriad y dudalen Gymaraeg fel hyperlink (h.y. Dde glicio ar y ddolen yn word > golygu hyperlink a rhoi'r cyfeiriad yn y bar cyfeirio, ond cadw'r testun i'w arddangos run fath). Fel hyn byddai yna gyfeiriad hawdd i pwy bynnag sy'n mynd yno o gopi papur, gan gymryd ei bod yn hawdd clicio ymlaen i'r dudalen Gymraeg, a byddai darllenwyr y fersiwn electronig yn gallu clicio i agor y dudalen yn syth yn Gymraeg. Dwi'n rhy ddiog i deipio link hir a chymhleth i wefan (yn enwedig os dwi ar ffôn fel rwan, neu dabled) felly byddwn i naill ai'n mynd i'r ddudalen Saesneg a chlicio ymlaen i'r Gymraeg neu jyst ddim yn trafferthu mae gen i ofn. Rhaid ystyried ymarferoldeb i'r darllenwr hefyd siawns?! Elin On Sunday, 24 November 2013, Geraint Lovgreen wrote: Dwi ddim yn meddwl y dylai testun Cymraeg anfon pobl at wefan Saesneg os oes gwefan Gymraeg ar gael. Geraint ----- Original Message ----- From: anna gruffydd <javascript:_e(%7b%7d,%20'cvml',[log in to unmask]);> To: [log in to unmask] <javascript:_e(%7b%7d,%20'cvml',[log in to unmask]);> Sent: Sunday, November 24, 2013 12:52 PM Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau Ella mod i'n siarad drwy fy het rwan gan na di'm yn dallt dim am na gwefanna na chyfrifiaduron na'r we na dim - gan dy fod yn so^n, Sia^n bod cyfeiriada gwefan Cymraeg yn hir - oni fasa'n haws i bobol fynd i'r un Saesneg a chlicio yno er mwyn newid iaith? Mae'n siwr mod i edi deud rhywbeth gwirion. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2013/11/24 Sian Roberts <[log in to unmask] <javascript:_e(%7b%7d,%20'cvml',[log in to unmask]);> > Sori - pledio blinder. Hollol glir ar ôl noson dda o gwsg! Cofiwch - weithiau mae cyfeiriadau gwefannau Cymraeg yn od o hir - cewch e.e. www.engagementwales.com <http://www.engagementwales.com/> yn Saesneg a rhyw ribidires ar y diwedd ar gyfer y wefan Gymraeg. Diolch, Siân On 2013 Tach 24, at 11:43 AM, Geraint Lovgreen wrote: > Helo Siân, > > "Efallai na fyddai hyn yn ddoeth"??? > > Sori, ond yn amlwg byddai'n hollol hurt cyfieithu'r cyfeiriad, a rhoi cyfeiriad nad yw'n bod! Beth fydda i'n wneud bob amser ydi mynd i'r wefan Gymraeg a rhoi cyfeiriad hwnnw yn y cyfieithiad - sef www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym <http://www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym> yn dy achos di. > > Dwi ddim yn gweld bod problem o gwbwl gyda hyn, fy hun! > > Geraint > > ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask] <javascript:_e(%7b%7d,%20'cvml',[log in to unmask]);> > > To: <[log in to unmask] <javascript:_e(%7b%7d,%20'cvml',[log in to unmask]);> > > Sent: Saturday, November 23, 2013 7:55 PM > Subject: cyfeiriadau gwefannau > > > Helo > Wedi drysu, braidd. > > Mae arna i eisiau rhoi cyfeiriad gwefan mewn dogfen fydd yn ymddangos ar y we ac ar bapur. > > Dyweder mai enw'r mudiad yw Engagement Wales yn Saesneg ac Ymgysylltiad Cymru yn Gymraeg. > Dyweder bod www.engagementwales.org.uk <http://www.engagementwales.org.uk/> yn arwain at wefan Saesneg a bod clicio ar y botwm Cymraeg yn arwain at www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym <http://www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym> > > Does dim URL www.ymgysylltiadcymru.org.uk <http://www.ymgysylltiadcymru.org.uk/> ond, pe bawn i'n mynnu, fe allwn i olygu'r ddolen ar gyfer y fersiwn ar-lein i ddweud hynny a byddai clicio ar y ddolen yn arwain at y wefan Gymraeg. Iawn? > Fodd bynnag, efallai na fyddai hyn yn ddoeth gan nad yw'r cyfeiriad yn bod go iawn a byddai unrhyw un fyddai'n teipio www.ymgysylltiadcymru.org.uk <http://www.ymgysylltiadcymru.org.uk/> i'r bar chwilio yn mynd i'r gors. > > Felly, ai'r peth gorau yw cynnwys y cyfeiriad cyfan www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym <http://www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym> yn y Gymraeg yn y fersiwn ar-lein a'r fersiwn bapur? > > Ddrwg gen i os ydi hyn yn ddryslyd. Gen i deimlad mod i'n dod ar draws hyn yn aml heb ei weld yn broblem o'r blaen! > > > Diolch > > Siân > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com/> > Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13 No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com/> Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13 No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6364 - Release Date: 11/24/13