----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Sian RobertsTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Sunday, November 24, 2013 2:37 PMSubject: Re: cyfeiriadau gwefannauIe, dyna ni.Dyweder bod y cyfeiriad Saesneg yn dweudond bod y gwir gyfeiriad Cymraeg yn dweudbyddai modd rhoi www.engagementwales.com/cynhadledd i ddangos yn fersiwn y we ond byddai'n rhaid rhoi'r cyfeiriad Cymraeg llawn yn y copi papur. Ie?DiolchSiân
On 2013 Tach 24, at 1:49 PM, Elin Davies wrote:
Problem Sian oedd bod y testun yn mynd i fod yn electronig ac wedi ei argraffu ar bapur ia? Os felly, un ateb posibl ydi cadw'r cyfeiriad Saesneg fel testun gweledol, ond rhoi cyfeiriad y dudalen Gymaraeg fel hyperlink (h.y. Dde glicio ar y ddolen yn word > golygu hyperlink a rhoi'r cyfeiriad yn y bar cyfeirio, ond cadw'r testun i'w arddangos run fath). Fel hyn byddai yna gyfeiriad hawdd i pwy bynnag sy'n mynd yno o gopi papur, gan gymryd ei bod yn hawdd clicio ymlaen i'r dudalen Gymraeg, a byddai darllenwyr y fersiwn electronig yn gallu clicio i agor y dudalen yn syth yn Gymraeg. Dwi'n rhy ddiog i deipio link hir a chymhleth i wefan (yn enwedig os dwi ar ffôn fel rwan, neu dabled) felly byddwn i naill ai'n mynd i'r ddudalen Saesneg a chlicio ymlaen i'r Gymraeg neu jyst ddim yn trafferthu mae gen i ofn. Rhaid ystyried ymarferoldeb i'r darllenwr hefyd siawns?!Elin
On Sunday, 24 November 2013, Geraint Lovgreen wrote:
Dwi ddim yn meddwl y dylai testun Cymraeg anfon pobl at wefan Saesneg os oes gwefan Gymraeg ar gael.Geraint----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="javascript:_e({},%20'cvml',[log in to unmask]);" target=_blank>anna gruffyddTo: [log in to unmask] href="javascript:_e({},%20'cvml',[log in to unmask]);" target=_blank>[log in to unmask]Sent: Sunday, November 24, 2013 12:52 PMSubject: Re: cyfeiriadau gwefannauElla mod i'n siarad drwy fy het rwan gan na di'm yn dallt dim am na gwefanna na chyfrifiaduron na'r we na dim - gan dy fod yn so^n, Sia^n bod cyfeiriada gwefan Cymraeg yn hir - oni fasa'n haws i bobol fynd i'r un Saesneg a chlicio yno er mwyn newid iaith? Mae'n siwr mod i edi deud rhywbeth gwirion.Anna
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2013/11/24 Sian Roberts <[log in to unmask]);" target=_blank>[log in to unmask]>
Sori - pledio blinder. Hollol glir ar ôl noson dda o gwsg!
Cofiwch - weithiau mae cyfeiriadau gwefannau Cymraeg yn od o hir - cewch e.e. www.engagementwales.com yn Saesneg a rhyw ribidires ar y diwedd ar gyfer y wefan Gymraeg.
Diolch,
Siân
On 2013 Tach 24, at 11:43 AM, Geraint Lovgreen wrote:
> Helo Siân,
>
> "Efallai na fyddai hyn yn ddoeth"???
>
> Sori, ond yn amlwg byddai'n hollol hurt cyfieithu'r cyfeiriad, a rhoi cyfeiriad nad yw'n bod! Beth fydda i'n wneud bob amser ydi mynd i'r wefan Gymraeg a rhoi cyfeiriad hwnnw yn y cyfieithiad - sef www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn dy achos di.
>
> Dwi ddim yn gweld bod problem o gwbwl gyda hyn, fy hun!
>
> Geraint
>
> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]);" target=_blank>[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]);" target=_blank>[log in to unmask]>
> Sent: Saturday, November 23, 2013 7:55 PM
> Subject: cyfeiriadau gwefannau
>
>
> Helo
> Wedi drysu, braidd.
>
> Mae arna i eisiau rhoi cyfeiriad gwefan mewn dogfen fydd yn ymddangos ar y we ac ar bapur.
>
> Dyweder mai enw'r mudiad yw Engagement Wales yn Saesneg ac Ymgysylltiad Cymru yn Gymraeg.
> Dyweder bod www.engagementwales.org.uk yn arwain at wefan Saesneg a bod clicio ar y botwm Cymraeg yn arwain at www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym
>
> Does dim URL www.ymgysylltiadcymru.org.uk ond, pe bawn i'n mynnu, fe allwn i olygu'r ddolen ar gyfer y fersiwn ar-lein i ddweud hynny a byddai clicio ar y ddolen yn arwain at y wefan Gymraeg. Iawn?
> Fodd bynnag, efallai na fyddai hyn yn ddoeth gan nad yw'r cyfeiriad yn bod go iawn a byddai unrhyw un fyddai'n teipio www.ymgysylltiadcymru.org.uk i'r bar chwilio yn mynd i'r gors.
>
> Felly, ai'r peth gorau yw cynnwys y cyfeiriad cyfan www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn y Gymraeg yn y fersiwn ar-lein a'r fersiwn bapur?
>
> Ddrwg gen i os ydi hyn yn ddryslyd. Gen i deimlad mod i'n dod ar draws hyn yn aml heb ei weld yn broblem o'r blaen!
>
>
> Diolch
>
> Siân
>
>
> -----
> No virus found in this message.
> Checked by AVG - www.avg.com
> Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6364 - Release Date: 11/24/13