Print

Print


Na, beth mae Elin yn ddweud ydi cadw'r cyfeiriad fel y mae yn y fersiwn papur gweledol, ond golygu'r hyperddolen fel bod y fersiwn ar-lein, er yn dangos y cyfeiriad Saesneg, yn mynd i'r fersiwn Cymraeg.

Fyddai dim pwynt rhoi www.engagementwales.com/cynhadledd yn unlle gan na fyddai'n arwain at unrhyw beth!

Geraint
  ----- Original Message ----- 
  From: Sian Roberts 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Sunday, November 24, 2013 2:37 PM
  Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau


  Ie, dyna ni.


  Dyweder bod y cyfeiriad Saesneg yn dweud 
  www.engagementwales.com/conference 
  ond bod y gwir gyfeiriad Cymraeg yn dweud 
  www.engagementwales.com/news/conference/djodnwoemng/?diablo.lang=cym, 
  byddai modd rhoi www.engagementwales.com/cynhadledd i ddangos yn fersiwn y we ond byddai'n rhaid rhoi'r cyfeiriad Cymraeg llawn yn y copi papur.  Ie?


  Diolch


  Siân










  On 2013 Tach 24, at 1:49 PM, Elin Davies wrote:


    Problem Sian oedd bod y testun yn mynd i fod yn electronig ac wedi ei argraffu ar bapur ia? Os felly, un ateb posibl ydi cadw'r cyfeiriad Saesneg fel testun gweledol, ond rhoi cyfeiriad y dudalen Gymaraeg fel hyperlink (h.y. Dde glicio ar y ddolen yn word > golygu hyperlink a rhoi'r cyfeiriad yn y bar cyfeirio, ond cadw'r testun i'w arddangos run fath). Fel hyn byddai yna gyfeiriad hawdd i pwy bynnag sy'n mynd yno o gopi papur, gan gymryd ei bod yn hawdd clicio ymlaen i'r dudalen Gymraeg, a byddai darllenwyr y fersiwn electronig yn gallu clicio i agor y dudalen yn syth yn Gymraeg. Dwi'n rhy ddiog i deipio link hir a chymhleth i wefan (yn enwedig os dwi ar ffôn fel rwan, neu dabled) felly byddwn i naill ai'n mynd i'r ddudalen Saesneg a chlicio ymlaen i'r Gymraeg neu jyst ddim yn trafferthu mae gen i ofn. Rhaid ystyried ymarferoldeb i'r darllenwr hefyd siawns?!


    Elin

    On Sunday, 24 November 2013, Geraint Lovgreen wrote:

      Dwi ddim yn meddwl y dylai testun Cymraeg anfon pobl at wefan Saesneg os oes gwefan Gymraeg ar gael.

      Geraint
        ----- Original Message ----- 
        From: anna gruffydd 
        To: [log in to unmask] 
        Sent: Sunday, November 24, 2013 12:52 PM
        Subject: Re: cyfeiriadau gwefannau


        Ella mod i'n siarad drwy fy het rwan gan na di'm yn dallt dim am na gwefanna na chyfrifiaduron na'r we na dim - gan dy fod yn so^n, Sia^n bod cyfeiriada gwefan Cymraeg yn hir - oni fasa'n haws i bobol fynd i'r un Saesneg a chlicio yno er mwyn newid iaith? Mae'n siwr mod i edi deud rhywbeth gwirion.


        Anna



        Ye who opt for cut'n'paste

        Tread with care and not in haste!




        2013/11/24 Sian Roberts <[log in to unmask]>

          Sori - pledio blinder.  Hollol glir ar ôl noson dda o gwsg!
          Cofiwch - weithiau mae cyfeiriadau gwefannau Cymraeg yn od o hir - cewch e.e. www.engagementwales.com yn Saesneg a rhyw ribidires ar y diwedd ar gyfer y wefan Gymraeg.

          Diolch,

          Siân


          On 2013 Tach 24, at 11:43 AM, Geraint Lovgreen wrote:

          > Helo Siân,
          >
          > "Efallai na fyddai hyn yn ddoeth"???
          >
          > Sori, ond yn amlwg byddai'n hollol hurt cyfieithu'r cyfeiriad, a rhoi cyfeiriad nad yw'n bod! Beth fydda i'n wneud bob amser ydi mynd i'r wefan Gymraeg a rhoi cyfeiriad hwnnw yn y cyfieithiad - sef www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn dy achos di.
          >
          > Dwi ddim yn gweld bod problem o gwbwl gyda hyn, fy hun!
          >
          > Geraint
          >
          > ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
          > To: <[log in to unmask]>
          > Sent: Saturday, November 23, 2013 7:55 PM
          > Subject: cyfeiriadau gwefannau
          >
          >
          > Helo
          > Wedi drysu, braidd.
          >
          > Mae arna i eisiau rhoi cyfeiriad gwefan mewn dogfen fydd yn ymddangos ar y we ac ar bapur.
          >
          > Dyweder mai enw'r mudiad yw Engagement Wales yn Saesneg ac Ymgysylltiad Cymru yn Gymraeg.
          > Dyweder bod www.engagementwales.org.uk yn arwain at wefan Saesneg  a bod clicio ar y botwm Cymraeg yn arwain at www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym
          >
          > Does dim URL www.ymgysylltiadcymru.org.uk ond, pe bawn i'n mynnu, fe allwn i olygu'r ddolen ar gyfer y fersiwn ar-lein i ddweud hynny a byddai clicio ar y ddolen yn arwain at y wefan Gymraeg.  Iawn?
          > Fodd bynnag, efallai na fyddai hyn yn ddoeth gan nad yw'r cyfeiriad yn bod go iawn a byddai unrhyw un fyddai'n teipio www.ymgysylltiadcymru.org.uk i'r bar chwilio yn mynd i'r gors.
          >
          > Felly, ai'r peth gorau yw cynnwys y cyfeiriad cyfan www.engagementwales.org.uk/?diablo.lang=cym yn y Gymraeg yn y fersiwn ar-lein a'r fersiwn bapur?
          >
          > Ddrwg gen i os ydi hyn yn ddryslyd. Gen i deimlad mod i'n dod ar draws hyn yn aml heb ei weld yn broblem o'r blaen!
          >
          >
          > Diolch
          >
          > Siân
          >
          >
          > -----
          > No virus found in this message.
          > Checked by AVG - www.avg.com
          > Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13



        No virus found in this message.
        Checked by AVG - www.avg.com
        Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6362 - Release Date: 11/24/13



  No virus found in this message.
  Checked by AVG - www.avg.com
  Version: 2012.0.2247 / Virus Database: 3629/6364 - Release Date: 11/24/13