Diolch bawb.
Mae ymrwymo’n gweithio yn y rhan fwyaf o’r enghreifftiau sy’n codi ond wedyn mae’n dweud bod rhywun neu’I gilydd ‘signed the pledge on behalf of the Health Board’…
Fydde rywbeth fel ‘llofnodi’r ddogfen ymrwymo’ yn iawn? Neu ydi hynny’n rhy bell o’r gwreiddiol?
Diolch eto
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 14 November 2013 09:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Sign a pledge
Os nad oes 'na "pledge" i'w lofnodi, efallai y byddai "ymrwymo" yn cyfleu'r ystyr.
Neu "gwneud ymrwymiad" os oes angen cyfeirio at y "pledge".
On 2013 Tach 14, at 8:39 AM, Rhian Huws wrote:
Ymgyrch iechyd meddwl sydd dan sylw – sign a pledge to promote mental health.
Tydi’r hen ymennydd ddim yn gweithio’n iawn bore ma. ‘Cymryd llw’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi ond tydio ddim yn swni’n iawn yn y cyd-destun yma rywsut.
Yn ddiolchgar am unrhyw awgrymiadau