Felly'r oeddwn i'n rhyw dybio. Diolch.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2013/11/1 Delyth Prys <[log in to unmask]>

Hi Anna,

Mae’r holiadur yn cael ei gadw a’i anfon yn awtomatig ar ol ei gwblhau – neu mewn geiriau eraill, mae’r cyfan yn digwydd dros y we ‘yn y cwmwl’.

Diolch,

Delyth

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 01 November 2013 09:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: cynorthwyo'r Coleg Cymraeg

Maddeuwch fy nhwpdra affwysol arferol: wedi'i gwblhau, ydi'r holiadur yn cael ei anfon heb i rywun orfod gwneud dim byd?

Anna

Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

2013/11/1 Delyth Prys <[log in to unmask]>

Annwyl bawb,

Gofynnodd Lowri Williams, sydd wedi’i secondio i wneud darn o waith i’r Coleg Cymraeg ar Astudiaethau Cyfieithu, i mi anfon y neges isod ymlaen at aelodau’r Cylch.

Os medrwch chi, byddai’n dda pe gallech lenwi’r holiadur hwn, gan fod dyfodol hyfforddiant y Proffesiwn Cyfieithu yn Nghymru yn bwnc pwysig i bob un ohonom.

Yn gywir,

Delyth

Holiadur y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: Astudiaethau Cyfieithu (Holiadur cyfieithwyr): https://www.surveymonkey.com/s/holicyfieithwyr

Annwyl Gyfaill,

Ysgrifennaf atoch i roi cyfle ichi gyfrannu at ddatblygiad pwysig a fydd yn cyfrannu at ddatblygu a chodi statws y proffesiwn cyfieithu Cymraeg/Saesneg.

Nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw cynyddu, datblygu ac ehangu cyfleoedd astudio drwy’r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru. Mae’n dymuno cynyddu ei gefnogaeth i astudiaethau cyfieithu cyfrwng Cymraeg drwy gydweithio â Phrifysgolion a phartneriaid eraill. Y bwriad yw creu fframwaith a fydd yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion pobl sy’n gweithio yn y proffesiwn cyfieithu Cymraeg/Saesneg yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i ymarferwyr a myfyrwyr.

Er mwyn gwireddu’r amcan o greu fframwaith sy’n ymateb yn uniongyrchol i anghenion y proffesiwn cyfieithu mae’n hanfodol ein bod yn cael clywed barn cyfieithwyr ynghylch yr hyfforddiant sy’n addas i anghenion y proffesiwn. Gofynnwn ichi felly gwblhau’r holiadur uchod.

Hyd yma rydym wedi bod yn trafod y ddarpariaeth sydd eisoes ar gael ym mhrifysgolion Cymru ac yn trafod â phartneriaid amlwg eraill gan gynnwys Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru. Amlygwyd sawl ystyriaeth berthnasol i’r fframwaith yn y cyfarfodydd hyn. Dyma ichi yn fyr, rai o’r camau gwaith sydd ar y gweill dros y misoedd nesaf:

·         Bydd holiadur arall ar gael ar gyfer cyflogwyr cyfieithwyr a’r rheini sy’n caffael gwaith cyfieithu

·         Byddwn yn ystyried cymwyseddau ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg-Saesneg ac yn parhau i gasglu gwybodaeth berthnasol am ddarpariaeth yng Nghymru a thu hwnt i Gymru

·         Ar sail canfyddiadau’r holiaduron a’r trafodaethau a’r ymchwil, byddwn yn llunio modelau posibl ar gyfer y fframwaith

·         Byddwn yn ymgynghori ar y modelau hyn yn y gwanwyn â chyfieithwyr a phrifysgolion fel ei gilydd

·         Bwriadwn barhau i rannu gwybodaeth a thrafod â chyfieithwyr a phartneriaid eraill yn ôl y gofyn.

Os ydych chi’n dymuno cymryd rhan mewn gweithgareddau pellach gan gynnwys gweithdai i drafod y prosiect hwn, neu dderbyn rhagor o wybodaeth am y prosiect gallwch nodi hynny yn yr holiadur.

Mae croeso ichi anfon y neges hon a’r ddolen at gyfieithwyr a fyddai â diddordeb mewn cyfrannu at y datblygiad pwysig hwn.

Edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor am ofynion hyfforddi’r proffesiwn cyfieithu Cymraeg/Saesneg gennych.

Yr eiddoch yn gywir,

Lowri W. Williams

Cydlynydd Academaidd Astudiaethau Cyfieithu/ Academic Coordinator for Translation Studies

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

07530 900547

Gallai’r neges electronig hon, ac unrhyw ffeiliau wedi’u hatodi, gynnwys gwybodaeth gyfrinachol ac maent wedi eu bwriadu’n unig ar gyfer y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os oes gennych reswm i gredu eich bod wedi cael y neges hon mewn camgymeriad rhowch wybod i’r anfonwr gwreiddiol ar unwaith a dilëwch y neges hon. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â datgelu, copďo na dosbarthu’r wybodaeth a gynhwysir ynddi a gallai gwneud hynny fod yn anghyfreithlon. Mae’r farn a’r safbwynt a fynegir yn y neges hon yn eiddo i’r awdur ac nid ydynt o anghenraid yn cynrychioli barn Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Swyddfa  gofrestredig: Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 3EQ

Rhif Cofrestru’r Cwmni: 07550507

This electronic message, including any attached files, may contain confidential information and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have reason to believe that you have received this message in error please inform the original sender immediately and delete this message. If you are not the intended recipient(s) you must not disclose, copy, or distribute information in this message and to do so may be unlawful. The views and opinions expressed in this email are those of the author and do not necessarily represent those of Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Registered office: Y Llwyfan, College Road, Carmarthen, Carmarthenshire, SA31 3EQ

Company Registration No: 07550507

Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.

This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.