Ia, siawns nad oes rhaid deud hynny, gan na doedd na Chaergybi na Holyhead yn bod dan yr enwa hynny ar y pryd, llasai neb sefydlu dim byd yno.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!


2013/11/8 Claire Richards <[log in to unmask]>

O beth ydw i’n cofio o ddarllen llyfrau a chyfnodolion ym maes hanes, y peth arferol a ddywedir yn Saesneg yw “XX / The Romans (etc.) founded YY on the site (on the headland,  in the valley, etc.) now called YY”.

 

Claire

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 08 November 2013 14:04
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Caergybi

 

Ie - rhywbeth fel "Saint Cybi established a monastery at Holyhead" - Wnes i ddweud mod i am addasu'r Gymraeg gan feddwl y byddai e'n penderfynu gwneud yr un peth i'r Saesneg.

 

Siân

 

On 2013 Tach 8, at 1:58 PM, Ann Corket wrote:

 

> Beth mae o'n ei ddweud yn y Saesneg, tybed? Gadael i bobl ddychmygu tarddiad Holyhead?

> Ann

> On 08/11/2013 13:27, Sian Roberts wrote:

>> Ie, dyna oedd gen i.

>> Fy nghamgymeriad oedd dweud wrth y cwsmer mod i wedi dweud hynny!

>> Rwy'n gyndyn o'i newid nôl - ond rwy'n meddwl bod awdurdod yn y maes yn mynd i gael gweld y testun wedyn ac efallai y gwneith e/hi sylwi ar y peth.

>>  Diolch

>> Siân

>>

>> On 2013 Tach 8, at 1:09 PM, Ann Corket wrote:

>>

>>> yn y man a elwir erbyn hyn yn "Caergybi" - neu rywbeth fel 'na???

>>> Ann

>>> On 08/11/2013 12:20, Sian Roberts wrote:

>>>> Gweithio ar ddarn sy'n dweud bod Cybi Sant wedi sefydlu mynachlog yng Nghaergybi.

>>>>

>>>> Yn eich barn chi, a fyddai'n well dweud rhywbeth sy'n dangos nad Caergybi oedd enw'r lle ar y pryd?

>>>> Ym marn y bachgen sgrifennodd y gwaith, mae'n rhaid i ni beidio â thybio bod y darllenwyr yn dwp ond dw i ddim mor siŵr!

>>>>

>>>> Diolch

>>>>

>>>> Siân

>>>>

>>>>