Print

Print


Ac yn hollol amhriodol, efallai, yn enwedig wrth sôn am berson sy'n arddel ffydd heblaw Cristnogaeth. 
Pe bai rhywun yn fy nisgrifio i fel person archolladwy byddwn i'n gynddeiriog.  Ydw, rwy'n 'vulnerable' yn yr ystyr bod arnaf i salwch meddwl difrifol (iselder) ond rhyngof fi a Duw/y duwiau yn unig mae cyflwr fy enaid.

Dw i ddim yn hollol ddiamddiffyn (dim eto, beth bynnag, er gwaethaf ymdrechion y Bonwr Duncan Smith a'i weision) ond efallai 'mod i'n fwy diamddiffyn nag ydw i'n agored i niwed.  Yn sicr rwy'n fwy agored i niwed na bregus. 

On Nov 7, 2013 10:29 PM, "Eurwyn Pierce Jones" <[log in to unmask]> wrote:

Mewn cyd-destunau Beiblaidd / Crefyddol / Cristnogol mae 'archolladwy' yn parhau i fod yn ddealladwy, yn gymeradwy ac yn eithaf cyffredin.  Ond efallai y tu allan i'r cysylltiadau hynny y byddai'r defnydd o 'archolladwy' yn cael ei ystyried heddiw braidd yn ffosilaidd ac anghyfoes (?).

 

Eurwyn.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones
Sent: 07 November 2013 11:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Vulnerable

 

Mae'n dibynnu ar y cyd-destun ddeudwn i - mae pobl yn gallu bod yn 'agored i niwed' neu'n 'fregus'  - ac mae sefyllfaoedd yn gallu bod yn 'vulnerable' (e.e. financially vulnerable, vunerable zones, vulnerable use) felly mae'n debyg y byddai angen defnyddio term arall yn yr achosion yma - 'yn peryglu' efallai, neu 'ddiamddiffyn'....efallai nad oes modd bathu un term sy'n briodol ymhob sefyllfa.

 

Sian

 

 


Date: Thu, 7 Nov 2013 11:22:17 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Vulnerable
To: [log in to unmask]

Yn anffodus, nid oes unrhyw gytgord o gwbl i’w weld ar hyn. Ceir hyglwyf, agored i niwed, sy’n agored i niwed, bregus, hawdd eu niweidio, sy’n hawdd ei niweidio, a diamddiffyn yn trwcio lle â’i gilydd yn dweddol rwydd.

 

Tim

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 07 November 2013 11:17
To: [log in to unmask]
Subject: Vulnerable

 

Helo,
Beth yw’r consensws ynglŷn â ‘vulnerable’?  
Mae Term Cymru’n cynnig ‘agored i niwed’ ond mae hynny weithiau’n codi gwrychyn pobl sy’n ffafrio ‘bregus’ ond wrth gwrs mae ‘na broblemau efo’r gair hwnnw hefyd.
Oes gan rywun gynnig hwylus?
gorwel


--

Ymwadiad:
Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
Disclaimer:
While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.
The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.
Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.