Ac yn hollol amhriodol, efallai, yn enwedig wrth sôn am berson sy'n arddel ffydd heblaw Cristnogaeth. Pe bai rhywun yn fy nisgrifio i fel person archolladwy byddwn i'n gynddeiriog. Ydw, rwy'n 'vulnerable' yn yr ystyr bod arnaf i salwch meddwl difrifol (iselder) ond rhyngof fi a Duw/y duwiau yn unig mae cyflwr fy enaid. Dw i ddim yn hollol ddiamddiffyn (dim eto, beth bynnag, er gwaethaf ymdrechion y Bonwr Duncan Smith a'i weision) ond efallai 'mod i'n fwy diamddiffyn nag ydw i'n agored i niwed. Yn sicr rwy'n fwy agored i niwed na bregus. On Nov 7, 2013 10:29 PM, "Eurwyn Pierce Jones" <[log in to unmask]> wrote: > Mewn cyd-destunau Beiblaidd / Crefyddol / Cristnogol mae 'archolladwy' > yn parhau i fod yn ddealladwy, yn gymeradwy ac yn eithaf cyffredin. Ond > efallai y tu allan i'r cysylltiadau hynny y byddai'r defnydd o > 'archolladwy' yn cael ei ystyried heddiw braidd yn ffosilaidd ac anghyfoes > (?). > > > > Eurwyn. > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Sian Jones > *Sent:* 07 November 2013 11:31 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Vulnerable > > > > Mae'n dibynnu ar y cyd-destun ddeudwn i - mae pobl yn gallu bod yn 'agored > i niwed' neu'n 'fregus' - ac mae sefyllfaoedd yn gallu bod yn 'vulnerable' > (e.e. financially vulnerable, vunerable zones, vulnerable use) felly mae'n > debyg y byddai angen defnyddio term arall yn yr achosion yma - 'yn peryglu' > efallai, neu 'ddiamddiffyn'....efallai nad oes modd bathu un term sy'n > briodol ymhob sefyllfa. > > > > Sian > > > > > ------------------------------ > > Date: Thu, 7 Nov 2013 11:22:17 +0000 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Vulnerable > To: [log in to unmask] > > Yn anffodus, nid oes unrhyw gytgord o gwbl i’w weld ar hyn. Ceir hyglwyf, > agored i niwed, sy’n agored i niwed, bregus, hawdd eu niweidio, sy’n hawdd > ei niweidio, a diamddiffyn yn trwcio lle â’i gilydd yn dweddol rwydd. > > > > Tim > > > ------------------------------ > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Gorwel Roberts > *Sent:* 07 November 2013 11:17 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Vulnerable > > > > Helo, > Beth yw’r consensws ynglŷn â ‘vulnerable’? > Mae Term Cymru’n cynnig ‘agored i niwed’ ond mae hynny weithiau’n codi > gwrychyn pobl sy’n ffafrio ‘bregus’ ond wrth gwrs mae ‘na broblemau efo’r > gair hwnnw hefyd. > Oes gan rywun gynnig hwylus? > gorwel > > > -- > > Ymwadiad: > Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor > a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion > a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r > angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. > Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) > y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y > neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges > hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai > chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef > neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, > dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. > O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir > datgelu cynnwys y negest ebost hon. > Disclaimer: > While reasonable care is taken to ensure the correctness of any > information and advice given in this correspondence no liability is > accepted for losses arising from any errors contained in it and you are > reminded of the need to obtain your own professional advice. > The information in this email and any attachments is intended solely for > the attention and use of the named addressee(s). If you are not the > intended recipient, or person responsible for delivering this information > to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you > are the intended recipient or his/her representative you are not authorised > to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any > part of it. > Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 > the contents of this email may be disclosed. >