Print

Print

Wele erthygl ddiddorol ar y maes hwn:

www.doj.gov.hk/eng/.../ldd20101118e.pdf

Yn iach,

Tim

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 11 November 2013 10:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Vulnerable

Os oes sawl term wedi'u defnyddio mewn deddfwriaeth Gymraeg i gyfleu un term Saesneg, tybed a oes yna gonfensiwn sy'n golygu bod y term diweddaraf wedi disodli'r term blaenorol? Neu a fyddai'r termau Cymraeg i gyd yn cael eu trin fel petaen nhw'n gydradd â'i gilydd nes bod barnwr (neu bwyllgor deddfau'r Cynulliad) yn dyfarnu?

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 11 Tachwedd 2013 09:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Vulnerable

Cytuno gant y cant. Ond ‘hyglwyf’, bellach, sy’n meddu ar rym cyfraith.

Yn iach,

Tim

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 10 November 2013 12:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Vulnerable

Mae "hyglwyf" ac "archolladwy" yn rhoi'r argraff i mi eu bod yn cyfeirio at anafiadau corfforol - er y gallwch gael enaid clwyfus ac archoll o dan eich bron.

Siân

On 2013 Tach 8, at 1:52 PM, Saunders, Tim wrote:

Bosib. Ond wele ychydig enghreifftiau, fodd bynnag:

O dan y Rheoliadau hyn, mae personau a gynhwysir ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p.14), personau y gwnaed cyfarwyddyd mewn perthynas â hwy o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) (a adwaenir fel Rhestr 99) a phersonau a waherddir o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant, o dan adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru (gweler rheoliadau 5, 6(1) a (2) a 7).

7. Mae person a waharddwyd o weithgarwch a reoleiddir mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i "regulated activity relating to children" yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei anghymhwyso.

24. Cynnwys enw P, ar unrhyw adeg, ar restr o bersonau anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003, neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod II o Ran II o'r Gorchymyn hwnnw.

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010

Erthygl 9

1 Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau fabwysiadu neu gryfhau, gweithredu a lledaenu cyfreithiau, mesurau gweinyddol, polisïau a rhaglenni cymdeithasol i atal y tramgwyddau y cyfeirir atynt yn y Protocol presennol. Rhaid rhoi sylw penodol I amddiffyn plant sy'n arbennig o hyglwyf gan yr arferion hyn.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

16.– (3) Rhaid i'r person cofrestredig roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod cofrestru neu gorff arbenigol priodol mewn perthynas ag–

(a) amddiffyn plant ac oedolion hyglwyf yn gyffredinol; a

(b) yn benodol, defnydd priodol o ddulliau rheoli neu atal.

ATODLEN 2

2. Naill ai–

(a) pan fo angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud â chofrestru o dan Ran 2 o'r Ddeddf neu pan fo'r swydd yn dod o fewn rheoliad 5A o Reoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol fanylach a ddyroddwyd o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(1), sy'n cynnwys, fel y bo'n gymwys, gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas ag oedolion hyglwyf (o fewn ystyr "suitability information relating to vulnerable adults" yn adran 113BB(2) o'r Ddeddf honno) neu wybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant (o fewn ystyr "suitability information relating to children" yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno) neu'r ddwy, a rhaid bod llai na thair blynedd wedi mynd heibio er pan ddyroddwyd y dystysgrif; neu

Rheoliadau Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2011

Yn iach,

Tim

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 08 November 2013 13:20
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Vulnerable

Mae hyglwyf yn awgrymu y gall rhywun gael ei glwyfo mewn rhyw ffordd

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Saunders, Tim
Sent: 08 November 2013 13:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Vulnerable

Ac, erbyn hyn, mae’r Cynulliad wedi rhoi grym cyfraith i ‘hyglwyf’.

T

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corket
Sent: 08 November 2013 12:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Vulnerable

Mi gynhyrchodd Lowri Williams a Delyth Prys lyfryn "Anabledd ac iaith: Canllawiau defnyddio terminoleg anabledd" (2001) i Fwrdd yr Iaith a'r Comisiwn Hawliau Anabledd yng Nghymru.  Yn anffodus, nid yw hwnnw'n cynnwys "vulnerable" (ac efallai bod ffasiwn wedi newid beth sy'n dderbyniol ymhlith rhai o'r termau eraill erbyn hyn).  Wn i ddim a hoffai Delyth roi unrhyw sylw.

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru wedi disodli'r Comisiwm Hawliau Anabledd, O chwilio ei safle, gwelaf 13 achos o "agored i niwed" a naw achos o "bregus/fregus", ond dim un o "archolladwy".

Pe hoffai rhywun edrych ar yr achosion i ystyried cyd-destun bob un, defnyddiwch Google a rhoi'r gair 'rydych chi'n chwilio amdano, gyda site:http://www.equalityhumanrights.com wedyn (peidiwch a gadael bwlch ar ol "site" na'r colon.

Ann

On 07/11/2013 11:46, Saunders, Tim wrote:

Ti’n gywir, wrth gwrs. Byddai rhyw fath o ganllaw yn gaffaeliad amhuethun.

Yn iach,

Tim

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones
Sent: 07 November 2013 11:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Vulnerable

Mae'n dibynnu ar y cyd-destun ddeudwn i - mae pobl yn gallu bod yn 'agored i niwed' neu'n 'fregus'  - ac mae sefyllfaoedd yn gallu bod yn 'vulnerable' (e.e. financially vulnerable, vunerable zones, vulnerable use) felly mae'n debyg y byddai angen defnyddio term arall yn yr achosion yma - 'yn peryglu' efallai, neu 'ddiamddiffyn'....efallai nad oes modd bathu un term sy'n briodol ymhob sefyllfa.

Sian

Date: Thu, 7 Nov 2013 11:22:17 +0000
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Vulnerable
To: [log in to unmask]

Yn anffodus, nid oes unrhyw gytgord o gwbl i’w weld ar hyn. Ceir hyglwyf, agored i niwed, sy’n agored i niwed, bregus, hawdd eu niweidio, sy’n hawdd ei niweidio, a diamddiffyn yn trwcio lle â’i gilydd yn dweddol rwydd.

Tim

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 07 November 2013 11:17
To: [log in to unmask]
Subject: Vulnerable

Helo,
Beth yw’r consensws ynglŷn â ‘vulnerable’?  
Mae Term Cymru’n cynnig ‘agored i niwed’ ond mae hynny weithiau’n codi gwrychyn pobl sy’n ffafrio ‘bregus’ ond wrth gwrs mae ‘na broblemau efo’r gair hwnnw hefyd.
Oes gan rywun gynnig hwylus?
gorwel

--

Ymwadiad:
Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.
Disclaimer:
While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.
The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.
Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.