Diddorol, Sian.Mae'n newydd i Bruce.Tybed a ydy'r enw yn The Welsh Vocabulary of the Bangor District, Ffynes-Clinton ('rwy'n meddwl bod rhagor o'i waith yn Llyfrgell y Coleg yma, heb ei gyhoeddi. Mae tua deng mlynedd ar hugain ers i grwp bach ohonom (mewn tafarn) gyfansoddi llythyr at "Y Faner" yn egluro tarddiad yr enw "mince pies". Fel y gwyddoch, mae'n siwr, briwgig go iawn oedd yn y pasteiod yn y dechrau. Fe wyddoch hefyd o hoffter yr hen Gymry o gadw geifr, a chig gafr a ddefnyddiwyd. Oherwydd bod y cig wedi'i ladd a'i gadw ers tipyn erbyn y 'Dolig, a heb fod yn ffres iawn, bu rhaid ychwanegu rhywbeth i guddio'r blas.Dyna darddiad myn sbeis. Yn ffodus, efallai, dewisodd golygydd Y Faner anwybyddu'r llythyr. Cofion, Ann On 27/11/2013 21:24, Sian Roberts wrote: > Oes rhywun wedi clywed "piogan" am "mince pie"? > Rhywun o Fangor oedd yn ei ddweud slawer dydd mae'n debyg. > > Diolch > > Siān >