Un bach diddorol ichi ... Y cyd destun ydi gwefan gyda delweddau torri gwrych neu godi waliau cerrig a'r 2 bennawd oddi tanodd fydd: Before After Cyn Wedyn Dwi wedi'i ddweud, ond mae'n siwr y basa rhai'n dadlau 'Cyn' a 'Wedi' neu 'Cyn' ac 'Ar ôl' ... Os ydi'r rhywun yn derbyn y 2 bennawd ar eu pennau'u hunain, yna Cyn a Wedyn fyddai'n iawn, ond os yn eich meddwl y cysyniad 'ma o dorri gwrych, er enghraifft, wel mae 'Wedyn' yn edrych yn od! Hm... Diolch, Dafydd