Mi anghofiais chwilio am "hyglyw" ar y wefan - ond wedi edrych, 'doedd dim un enghraifft. Ann On 08/11/2013 13:11, Saunders, Tim wrote: > > Ac, erbyn hyn, mae’r Cynulliad wedi rhoi grym cyfraith i ‘hyglwyf’. > > T > > ------------------------------------------------------------------------ > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of > *Ann Corket > *Sent:* 08 November 2013 12:56 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Vulnerable > > Mi gynhyrchodd Lowri Williams a Delyth Prys lyfryn "Anabledd ac iaith: > Canllawiau defnyddio terminoleg anabledd" (2001) i Fwrdd yr Iaith a'r > Comisiwn Hawliau Anabledd yng Nghymru. Yn anffodus, nid yw hwnnw'n > cynnwys "vulnerable" (ac efallai bod ffasiwn wedi newid beth sy'n > dderbyniol ymhlith rhai o'r termau eraill erbyn hyn). Wn i ddim a > hoffai Delyth roi unrhyw sylw. > > Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru wedi disodli'r > Comisiwm Hawliau Anabledd, O chwilio ei safle, gwelaf 13 achos o > "agored i niwed" a naw achos o "bregus/fregus", ond dim un o > "archolladwy". > > Pe hoffai rhywun edrych ar yr achosion i ystyried cyd-destun bob un, > defnyddiwch Google a rhoi'r gair 'rydych chi'n chwilio amdano, gyda > site:http://www.equalityhumanrights.com wedyn (peidiwch a gadael bwlch > ar ol "site" na'r colon. > > Ann > > On 07/11/2013 11:46, Saunders, Tim wrote: > >> Ti’n gywir, wrth gwrs. Byddai rhyw fath o ganllaw yn gaffaeliad >> amhuethun. >> >> Yn iach, >> >> Tim >> >> ------------------------------------------------------------------------ >> >> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of >> *Sian Jones >> *Sent:* 07 November 2013 11:31 >> *To:* [log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]> >> *Subject:* Re: Vulnerable >> >> Mae'n dibynnu ar y cyd-destun ddeudwn i - mae pobl yn gallu bod yn >> 'agored i niwed' neu'n 'fregus' - ac mae sefyllfaoedd yn gallu bod >> yn 'vulnerable' (e.e. financially vulnerable, vunerable zones, >> vulnerable use) felly mae'n debyg y byddai angen defnyddio term arall >> yn yr achosion yma - 'yn peryglu' efallai, neu >> 'ddiamddiffyn'....efallai nad oes modd bathu un term sy'n briodol >> ymhob sefyllfa. >> >> Sian >> >> ------------------------------------------------------------------------ >> >> Date: Thu, 7 Nov 2013 11:22:17 +0000 >> From: [log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]> >> Subject: Re: Vulnerable >> To: [log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]> >> >> Yn anffodus, nid oes unrhyw gytgord o gwbl i’w weld ar hyn. Ceir >> hyglwyf, agored i niwed, sy’n agored i niwed, bregus, hawdd eu >> niweidio, sy’n hawdd ei niweidio, a diamddiffyn yn trwcio lle â’i >> gilydd yn dweddol rwydd. >> >> Tim >> >> ------------------------------------------------------------------------ >> >> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of >> *Gorwel Roberts >> *Sent:* 07 November 2013 11:17 >> *To:* [log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]> >> *Subject:* Vulnerable >> >> Helo, >> Beth yw’r consensws ynglŷn â ‘vulnerable’? >> Mae Term Cymru’n cynnig ‘agored i niwed’ ond mae hynny weithiau’n >> codi gwrychyn pobl sy’n ffafrio ‘bregus’ ond wrth gwrs mae ‘na >> broblemau efo’r gair hwnnw hefyd. >> Oes gan rywun gynnig hwylus? >> gorwel >> >> >> -- >> >> Ymwadiad: >> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a >> chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am >> unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac >> fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. >> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r >> person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y >> cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am >> drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr >> ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person >> y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi >> i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na >> chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. >> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 >> gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon. >> Disclaimer: >> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any >> information and advice given in this correspondence no liability is >> accepted for losses arising from any errors contained in it and you >> are reminded of the need to obtain your own professional advice. >> The information in this email and any attachments is intended solely >> for the attention and use of the named addressee(s). If you are not >> the intended recipient, or person responsible for delivering this >> information to the intended recipient, please notify the sender >> immediately. Unless you are the intended recipient or his/her >> representative you are not authorised to, and must not, read, copy, >> distribute, use or retain this message or any part of it. >> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act >> 2000 the contents of this email may be disclosed. >>